Newyddion S4C

Tyllau yn y ffyrdd: Y difrod i gerbydau er ei waethaf ers pum mlynedd

15/01/2024
Olwyn mewn twll

Mae nifer y cerbydau sy'n torri lawr yn sgil tyllau yn y ffyrdd ar ei uchaf ers pum mlynedd yn ôl ffigyrau newydd. 

Dywedodd yr AA eu bod wedi derbyn 632,000 o alwadau ar draws y Deyrnas Unedig am gerbydau wedi eu difrodi gan dyllau yn y ffyrdd y llynedd.

Roedd hyn yn gynnydd o 16% o'i gymharu â'r 12 mis blaenorol, a'r mwyaf ers i 666,000 o alwadau gael eu cofnodi yn 2018.

Dywed yr AA bod angen datrysiadau "hir dymor" yn hytrach na rhai 'dros dro' a thryloywder gan awdurdodau lleol ynghylch eu cynnydd wrth fynd i'r afael â gwella ansawdd y ffyrdd.

Mae gyrru dros dwll dwfn yn y ffordd yn medru achosi difrod i deiars, olwynion a systemau llywio cerbydau.

Mae cwynion am gyflwr y ffyrdd wedi cynyddu mewn nifer o siroedd ledled Cymru. 

Dywedodd llywydd yr AA Edmund King: "Ar hyn o bryd, mae gennym ni gylch dieflig: pan mae twll yn y ffordd, mae yna ddifrod yn cael ei achosi, mae'r twll yn cael ei lenwi dros dro cyn ail-ddangos a chreu mwy o ddifrod. 

"Beth sydd ei angen arnom ni ydi datrysiadau mwy parhaol."

'Dirywio'

Ychwanegodd pennaeth polisi'r RAC Simon Williams: "Mae tyllau yn y ffordd yn llawer mwy na rhwystredigaeth yn unig - maen nhw’n beryglus iawn i bawb sy’n defnyddio’r ffyrdd ac rydyn ni’n ofni y bydd ond yn gwaethygu wrth i’r tywydd oeri yn ystod y misoedd nesaf.

"Er mwyn atal dŵr rhag difrodi’r ffyrdd yn ystod misoedd y gaeaf pan fydd yn rhewi, rydym yn erfyn ar awdurdodau priffyrdd lleol i roi arwyneb newydd ar y rhai sydd yn y cyflwr gwaethaf a gwneud mwy o waith trin ar ffyrdd sy'n dechrau dirywio rhwng Ebrill a Medi."

Roedd cynnydd o 40% y llynedd yn y nifer a hawliodd arian oherwydd difrod i'w cerbydau yn sgil tyllau mewn ffyrdd, medd y cwmni yswiriant Cymreig Admiral. 

Yn ôl Admiral, cafodd 1,324 o geisiadau eu cofnodi ganddynt yn 2023 o gymharu â 946 yn 2022.

Ar gyfartaledd, mae cost y difrod yn sgil tyllau yn y ffyrdd wedi cynyddu 29% wrth gymharu 2023 a 2022, yn ôl ystadegau Admiral.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.