Newyddion S4C

Rhybudd melyn am rew ddydd Llun ac eira ddydd Mawrth

15/01/2024
Eira ym Mlaenau Ffestiniog

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am rew i rannau o ogledd Cymru ddydd Llun, ar ddechrau wythnos sy'n cynnwys rhybuddion am eira ar draws rhannau helaeth o Gymru.

Mae'r rhybudd am rew mewn grym ers 05:00 ddydd Llun ac yn parhau tan 11:00. 

Yn ôl y Swyddfa Dywydd, gall y tywydd achosi rhai anafiadau yn sgil arwynebau llithrig.. 

Maent yn cynghori pobl i gynllunio i adael y tŷ o leiaf bum munud yn gynt na'r arfer.

Ychwanegodd y swyddfa y dylai pobl wirio amadau ffyrdd os yn gyrru, yn ogystal ag amserlenni bws a thrên. 

Fe fydd y rhybudd yn effeithio ar y siroedd canlynol:

  • Gwynedd
  • Conwy
  • Sir Ddinbych
  • Sir y Fflint
  • Wrecsam
  • Powys

Eira ddydd Mawrth

Bydd rhybudd am rew ac eira yn dod i rym mewn nifer o siroedd drwy gydol ddydd Mawrth.

Fe allai rhai ffyrdd gael eu heffeithio gan eira am gyfnodau.

Yn ogystal fe allai rhai gwasanaethau rheilffyrdd a bysiau gael eu gohirio oherwydd y tywydd.

Bydd y rhybudd hwnnw yn effeithio ar:

  • Ceredigion
  • Conwy
  • Sir Ddinbych
  • Sir y Fflint
  • Gwynedd
  • Powys
  • Wrecsam
  • Ynys Môn
  • Sir Gaerfyrddin 
  • Sir Benfro 

Mae rhybudd eira yn parhau mewn grym yng Nghymru ddydd Mercher a Iau.

'Risg'

Bydd gwyntoedd o'r Arctig yn dod â thywydd oer iawn mewn mannau yn gynnar yr wythnos nesaf.

Bydd rhai ardaloedd gwledig y DU yn gweld llawer o rew a thymheredd mor isel â -10C.

Mae Dr Agostinho Sousa, Pennaeth Digwyddiadau Eithafol a Diogelu Iechyd yn Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU yn rhybuddio y gall y tywydd oer gael effaith ddifrifol ar iechyd rhai pobl fregus a'r henoed.

"Mae hyn gan ei fod yn cynyddu'r risg o drawiadau ar y galon, strôc a heintiau ar y frest. Mae’n hanfodol felly sicrhau bod eich ffrindiau, teulu a chymdogion wedi’u paratoi’n dda ar gyfer y tywydd oer yr wythnos nesaf," meddai.

Llun: Eira ym Mlaenau Ffestiniog gan Erwynj / X

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.