Vaughan Gething yn lansio ei ymgyrch arweinyddol
Bydd Vaughan Gething yn lansio ei ymgyrch i olynu Mark Drakeford fel arweinydd Llafur Cymru a Phrif Wediniog y wlad ddydd Llun.
Mae'n un o ddau ymgeisydd ynghyd â'r gweinidog addysg Jeremy Miles yn y ras am arweinyddiaeth ei blaid.
Fe fydd Mr Gething yn amlinellu ei weledigaeth am "ddyfodol tecach i Gymru, gan addo rhoi cyfle i bob person lwyddo drwy greu mwy o swyddi a chyfleoedd da, gwyrdd fel Prif Weinidog Cymru."
Wrth siarad cyn y lansiad dywedodd Mr Gething: "Mae hon yn foment bwysig i Gymru, ond rwy’n obeithiol am yr hyn sydd i ddod. Rwyf eisiau i Gymru fod ar flaen y gad yn y chwyldro gwyrdd bydd yn siapio ein dyfodol.
"Yn y ganrif hon, gwaith ein Plaid ni yw creu ffyniant gwyrdd sydd o fudd i bawb. Lle mae pŵer a chyfoeth yn cael eu rhannu ymhlith ein cymunedau, nid eu crynhoi yn nwylo yr ychydig breintiedig.
"Rwyf am inni gwrdd â’r her honno a gweithio i sicrhau dyfodol tecach, wedi’i adeiladu gan bob un ohonom.”
'Ymrwymo'
Yn ôl Mr Gething, cyflawni cyfiawnder cymdeithasol a chyfiawnder hinsawdd gyda'u gilydd fyddai ei brif nod petai'n fuddugol.
Ychwanegodd y byddai'n ymrwymo i greu mwy o swyddi "sy'n talu'n dda mewn diwydiannau sydd hefyd yn helpu Cymru i fynd i’r afael â newid hinsawdd cyn gynted â phosib."
Mae Mr Gething eisoes wedi cyhoeddi na fyddai byth yn ystyried preifateiddio’r gwasanaeth iechyd petai'n dod yn brif weinidog nesaf Cymru.
Dywedodd taw’r GIG yw “un o lwyddiannau balchaf” ei blaid, a'i fod yn benderfynol o sicrhau ei ddyfodol yng Nghymru.
“Fel Prif Weinidog, byddwn yn sicrhau bod y GIG yng Nghymru yn aros yn driw i’r egwyddor Bevan honno – bydd yn parhau yn nwylo’r cyhoedd,” meddai.
Fe fydd Mr Drakeford yn gadael ei swydd fel arweinydd y Blaid Lafur ym mis Mawrth, ac fe fydd arweinydd newydd yn cael ei ethol erbyn y Pasg.