Cyngor yn bwriadu adfywio cais cynllunio hanesyddol mewn pentref yng Ngwynedd
Mae Cyngor Gwynedd yn gobeithio adfywio cais cynllunio hanesyddol mewn pentref yng Ngwynedd a gafodd ei wrthod am y tro cyntaf tua 50 mlynedd yn ôl.
Gwrthodwyd caniatâd cynllunio i adeiladu tai ar safle cae wrth ymyl tafarn yn Llanrug yn yr 1970au, ond bellach mae nôl ar yr agenda cynllunio.
Dros y blynyddoedd roedd cynigion tai ar gyfer y tir ger Tafarn Glyntwrog wedi derbyn llu o wrthwynebiadau gan y cyhoedd.
Bellach mae Cyngor Gwynedd yn bwriadu argymell dirprwyo pwerau i gymeradwyo'r cynllun drwy drosglwyddo unedau i gymdeithas dai Adra.
Bwriad y cyngor yw gosod 'cytundeb 106' ar y safle, sef rheol gynllunio rhwng datblygwyr a’r awdurdod sydd yn gosod cyfyngiadau penodol ar safleoedd, gan gynnwys y math o dai fydd yn cael eu hadeiladu yno.
Mae’r cais diweddaraf yn disgrifio adeiladu tri ‘thŷ fforddiadwy cymdeithasol’, gan gynnwys dau dŷ pâr ac un byngalo wedi’i addasu.
Yn ogystal, bydd yn cynnwys mynedfa newydd, wyth lle parcio a man casglu biniau.
'Diddordeb'
Roedd cais blaenorol wedi galw am bedwar tŷ deulawr – ond fe’i gwrthodwyd yn dilyn protest gan y cyhoedd a phryderon swyddogion y cyngor.
Ond fe fydd cais diwygiedig yn cael ei drafod ym mhwyllgor cynllunio Cyngor Gwynedd ddydd Llun.
Daw hyn yn dilyn “diddordeb lleol a gwrthwynebiad i’r cais,” yn ôl dogfen gynllunio.
Wedi ei leoli ar hyd yr A408, nid oedd y tir wedi ei ddynodi ar gyfer defnydd penodol ac fe’i hystyriwyd “y tu allan i ffin ddatblygu” Llanrug.
Cyflwynwyd y cais, ar y safle 0.11 hectar gan Morris Build for Life, drwy’r asiant Mark Davies o Cambrian Planning and Development Ltd.
Mae'r cyngor wedi derbyn gohebiaeth yn amlygu pryderon yn lleol am y cais.
Roedd rhain yn cynnwys amharu ar danc septig, colli preifatrwydd a golau'r haul, niwsans a phryderon diogelwch ffyrdd.
Disgrifiodd eraill bryderon am geir yn parcio ar y ffordd sirol, pwysau ar yr ysgol gynradd lleol a, cholli tir.
Codwyd hefyd yr effaith ar y safle bws, traffig ychwanegol, gorddatblygiad ac agosrwydd at y dafarn.
'Gwrando'
Ar 1 Gorffennaf 2021 cafodd cyfarfod arbennig o’r cyngor ei drefnu i drafod cais cynllunio ar y tir, gyda’r cyhoedd yn bresennol dros Zoom.
Penderfynodd y cyngor wrthwynebu'r cais gan ddweud bod y diffiniad o "dai fforddiadwy" yn "aneglur."
Mewn adroddiad, mae’r cyngor yn honni ei fod wedi “gwrando ar farn trigolion lleol” a’i fod yn glir “nad yw trigolion sy’n byw o amgylch safle’r datblygiad yn dymuno gweld y datblygiad yn digwydd.”
Mae'r cynllun presennol wedi'i addasu i gynnwys tair uned fforddiadwy cymdeithasol, gan gynnwys byngalo, a ddyluniwyd i fynd i'r afael â gofynion anghenion arbennig.
Dywedodd y cyngor eu bod wedi trafod gyda chymdeithas dai Adra dros safleoedd addas, a'r angen am gartrefi cymdeithasol a hygyrch.
Ychwanegodd y cyngor pe byddai Adra yn darparu 100% o’r eiddo fel “rhent cymdeithasol fforddiadwy”, byddai’r datblygiad yn bodloni polisi ac yn darparu tai fforddiadwy.
Roedd Adra hefyd “yn ymwybodol bod yna restr aros o 3000 o bobl ar hyn o bryd yng Ngwynedd am dai cymdeithasol,” yn ôl y ddogfen gynllunio.
Cadarnhaodd y cyngor y byddai’r unedau yn rhai “rhent cymdeithasol yn unig” ac y gellid eu hystyried yn ‘fforddiadwy’ ar sail eu bod ar “safle eithrio.”
Er gwaethaf "cydnabod sylwadau’r cyhoedd,” dywedodd y cyngor ei fod yn credu bod y cynllun bellach yn “dderbyniol mewn egwyddor,” ac yn cydymffurfio â “pholisïau cynllunio lleol a chenedlaethol perthnasol…”