Newyddion S4C

Teyrnged teulu i 'enaid bywiog' a fu farw mewn gwrthdrawiad ym Mhort Talbot

13/01/2024
Jordan Lee Powell

Mae swyddogion Heddlu De Cymru'n parhau i ymchwilio i wrthdrawiad angheuol ar Ffordd Southville, Sandfields, Port Talbot, a ddigwyddodd tua 22:00 ar ddydd Iau 4 Ionawr.

Bu farw dyn 29 oed o Sandfields o ganlyniad i’r gwrthdrawiad ac mae wedi’i enwi fel Jordan Lee Powell.

Mewn teyrnged iddo, dywedodd ei deulu: “Jordan, roeddet ti’n ddyweddi cariadus, yn dad, yn llysdad, yn frawd, yn fab, yn nai ac yn ŵyr.

"Roeddet ti bob amser yn gwybod sut i fywiogi ystafell gyda'th wên. 

"Byddai pobl yun ei glywed cyn i chi ei weld! Yr oedd yn enaid mor fywiog. Ef oedd y bachgen nad oedd byth eisiau tyfu i fyny.”

Mae swyddogion yn dal i apelio am dystion i’r gwrthdrawiad, gan ofyn i bobl sydd gyda gwybodaeth i gysylltu gan ddefnyddio'r cyfeirnod 2400004570.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.