Newyddion S4C

Yr ymdrech i ddod o hyd i ddyn sydd ar goll yn Eryri'n parhau

13/01/2024
David

Mae'r ymdrech i ddod o hyd i ddyn sydd ar goll yn Eryri'n parhau ddydd Sadwrn.

Bu'n rhaid i swyddogion a Thimau Achub Mynydd arbenigol a’r Awyrlu sy’n chwilio am David Brookfield, 65 oed, ohirio'r ymdrech achub dros nos. 

Dywedodd y Prif Arolygydd Jon Aspinall: “Mae ein cydweithwyr wedi bod yn cynnal chwiliad systematig o ardaloedd amrywiol o amgylch Eryri ers dydd Mercher. 

"Oherwydd y tywydd gwael, bydd ein chwiliad yn ailddechrau yn y bore trwy ddronau a hofrennydd os yw'r amodau'n caniatáu.

“Byddwn yn annog unrhyw aelodau o’r gymuned cerdded a dringo i ymatal rhag ceisio helpu, gan fod amodau lleol yn hynod beryglus.

“Rydym yn disgwyl y bydd y tywydd yn dirywio’n sylweddol dros y dyddiau nesaf, ac mae’n annhebygol iawn y bydd unrhyw chwiliadau arbenigol yn bosibl ar droed.”

Cafodd David Brookfield ei weld ddiwethaf ar ddydd Mawrth 9 Ionawr yn ardal Eryri. 

Mae ei deulu yn cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.