Newyddion S4C

Pryderon y bydd Dewi Lake yn colli'r Chwe Gwlad oherwydd anaf

13/01/2024
Dewi Lake

Gyda thri diwrnod yn unig tan y bydd Warren Gatland yn cyhoeddi ei garfan ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad mae bachwr Cymru a'r Gweilch, Dewi Lake wedi dioddef anaf.

Roedd Gatland yn gwylio Lake a'r Gweilch yn stadiwm Swansea.com nos Wener wrth iddynt guro Perpignan.

Dioddefodd Lake anaf i'w goes wedi pum munud yn unig a bu'n rhaid iddo adael y cae.

Roedd Lake yn chwarae yn safle'r blaenasgellwr yn hytrach na'i safle arferol fel bachwr, a hynny oherwydd anaf i'w gyd-gapten yng Nghwpan y Byd, Jac Morgan.

Ni fydd Morgan yn chwarae rhan yn y bencampwriaeth eleni chwaith oherwydd anaf i'w ben-glin.

Mae rheolwr y Gweilch, Toby Booth yn dweud ei fod wedi penderfynu tynnu Lake oddi ar y cae er mwyn osgoi gwaethygu'r anaf.

"Teimlodd fath o pop yn llinyn y gar, ac roeddem eisiau bod yn ofalus," meddai.

“Gobeithio y bydd yr anaf yn un radd isel, felly ychydig o wythnosau, ond bydd yn dibynnu ar beth yw difrifoldeb yr anaf.

“Rydych chi'n ymwybodol o'ch corff ac os nad yw rhywbeth yn teimlo'n iawn, mae angen i chi benderfynu os ydy'r chwaraewr yn gallu parhau neu a ydyn nhw mewn perygl.

"Weithiau mae'n rhaid i chi amddiffyn y chwaraewr rhag eu hunain."

Capten newydd

Bydd gan Gymru gapten newydd ar gyfer y Chwe Gwlad eleni yn dilyn anafiadau i'w cyd-gapteiniaid.

Mae ymgyrch Cymru yn dechrau ar 3 Chwefror yn Stadiwm y Principality yn erbyn Yr Alban.

Mae Gatland wedi ennill Pencampwriaeth y Chwe Gwlad ar bedwar achlysur fel hyfforddwr Cymru.

Llynedd daeth Cymru'n bumed.

Prif lun: Asiantaeth Huw Evans

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.