Mam o Geredigion a gollodd ei mab mewn tân wedi marw o ganser

09/01/2024
erin corner.png

Mae mam o Geredigion a gollodd ei mab wedi tân mewn carafan yn 2020 wedi marw yn dilyn diagnosis o ganser. 

Bu farw Erin Corner o Bontrhydfendigaid yn 31 oed ddydd Llun. 

Mewn datganiad ar blatfform TikTok, dywedodd ei theulu ei bod wedi "marw yn ddi-boen ac yn heddychlon fore Llun. 

"Fe wnaethoch chi gyd argraff enfawr yn ystod ei misoedd ac wythnosau olaf ac rydym ni gyd mor ddiolchgar i chi." 

Derbyniodd Ms Corner ddiagnosis o fath prin o ganser yn 2023. 

Fe gafodd driniaeth i geisio cael gwared â'r  tiwmor, ond fe gafodd wybod fod y canser wedi lledaenu a bod ganddi "fisoedd yn hytrach na blynyddoedd" i fyw.

Bu farw mab Ms Corner, Zac Harvey, yn dair oed mewn tân yn Ffair Rhos ger Tregaron yng Ngheredigion ar 19 Ionawr 2020. 

Bu farw ei mab arall, Tyler, wedi iddo ddioddef ataliad ar y galon ym mis Rhagfyr 2012, a hynny ychydig o fisoedd ar ôl iddo ddioddef cymhlethdodau ar ôl cael ei eni'n gynnar. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.