Newyddion S4C

‘Y llais pur, bendigedig’: Leah Owen wedi marw’n 70 oed

04/01/2024

‘Y llais pur, bendigedig’: Leah Owen wedi marw’n 70 oed

Mae'r gantores, yr arweinydd a'r hyfforddwraig canu Leah Owen wedi marw’n 70 oed yn dilyn cyfnod o salwch.

Cafodd ei magu yn Rhosmeirch ar Ynys Môn, ac roedd yn byw ym mhentref Prion yn Sir Ddinbych ers blynyddoedd.

Daeth i amlygrwydd ar ôl iddi ennill pedair gwobr gyntaf yn Eisteddfod Rhydaman ym 1970.

Cyhoeddodd nifer o recordiau yn ystod ei gyrfa lwyddiannus, gan ddechrau yng nghanol y 70au.

Roedd yn enw cyfarwydd yn y byd cerdd dant, gan osod gosodiadau di-ri i gannoedd o blant a phobl ifanc i gystadlu mewn Eisteddfodau lleol yn ogystal â'r Brifwyl.

Enillodd Fedal Syr T.H. Parry Williams yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2010.

Mewn teyrnged, dywedodd yr Eisteddfod Genedlaethol: "Yn arweinydd, hyfforddwr, beirniad a chystadleuydd, roedd cyfraniad Leah Owen i’r Eisteddfod a byd y pethe’n enfawr ac mae’i cholli hi heddiw’n ergyd fawr i ddiwylliant Cymru.
 
" Rydyn ni’n anfon ein cydymdeimladau dwysaf at Eifion a’r teulu yn eu galar."
 
Dywedodd Dafydd Iwan: "Roedd Leah yn gymeriad hyfryd, a'i hymroddiad i ddiwylliant Cymru yn ddifesur. Cysga'n dawel."
 

Derbyniodd Leah Owen Wobr Llwyddiant Oes yn seremoni Gwobrau Cymunedol Sir Ddinbych ym mis Tachwedd y llynedd.

Fe wnaeth hefyd dderbyn Gradd er anrhydedd Doethur mewn Cerddoriaeth gan Brifysgol Bangor am ei chyfraniad at ddiwylliant, cerddoriaeth a chelfyddydau Cymru a’r Gymraeg ym mis Rhagfyr.

Wedi iddi hyfforddi cannoedd o blant a phobl ifanc, yn unigolion, deuawdau, ensembles neu gorau ar hyd a lled gogledd Cymru ar hyd y blynyddoedd, aeth nifer o'r rhain yn eu blaen i ffurfio gyrfa lwyddiannus yn y byd cerdd.

Mewn cyfweliad diweddar, dywedodd Steffan Rhys Hughes, a gafodd ei hyfforddi gan Leah Owen ers yn blentyn ifanc: "Dwi ddim yn siwr be fyswn i'n gwneud na lle fyswn i heb Leah Owen… o'n i jyst yn teimlo yn saff yn y 'stafell ffrynt yn Prion yn cael gwersi efo Leah.

“Oedd hi'n edrych ar ôl ni gyd ag oedd hi jyst yn athrawes gwerth chweil, dwi mor ddiolchgar am yr hyn nath hi roi i fi, ag o'n i isio llwyddo wedyn i ddeud diolch yn ôl."

Un oedd yn ffrind da i Leah Owen oedd y cyfansoddwr Robat Arwyn. Dywedodd: "Mae cyfraniad Leah i ddiwylliant Sir Ddinbych yn fan hyn ond hefyd Cymru gyfan yn ffantastig.

"Leah wrth gwrs efo'r llais pur, bendigedig 'ma a mor mor lan, ac oedd o jyst yn fraint sgwennu caneuon iddi."

Mae'r gantores Mared Williams hefyd yn un o gyn-ddisgyblion Leah Owen.

Dywedodd mewn cyfweliad gyda rhaglen Heno gafodd ei ddarlledu y llynedd: "Mae arna i lot fawr iawn i Leah Owen am jest datblygu'r hyder cynnar 'na yn y canu ag oedd hi rywsut yn cael naws pur allan o leisiau Dyffryn Clwyd.

"O'dd genna hi jyst y gallu na i roi yr hyder heb ffys, mor ddiffuant hefyd a dwi'n cario hynne efo fi hyd heddiw."

Roedd yn briod gydag Eifion ac yn fam i bedwar o blant, Angharad, Elysteg, Ynyr a Rhys, ac yn nain i saith.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.