Newyddion S4C

'Dylai Mabli fod yma'n agor anrhegion': Annog rhieni i drafod colli plentyn

23/12/2023

'Dylai Mabli fod yma'n agor anrhegion': Annog rhieni i drafod colli plentyn

“Ti wastad yn meddwl i dy hun dylai Mabli fod yma nawr, dylai Mabli fod yn agor anrhegion efo Gruff… ti wastad yn credu y dylai hi fod efo ni.” 

Dyma eiriau un fam wrth iddi hi a’i theulu ifanc wynebu “heriau” y Nadolig yn dilyn marwolaeth plentyn. 

Yn dilyn triniaeth IVF beichiogodd Rhiannon Donnelly wedi pum mlynedd o geisio am fabi gyda'i gŵr, Nathan.

Ond bu farw Mabli, yn efeilles i’w brawd Gruff, yn y groth ar 6 Hydref, 2021, cyn i'r ddau gael eu geni ar 12 Tachwedd.

Ac wrth i deuluoedd ar hyd a lled y wlad ymgasglu i ddathlu’r Nadolig, mae dathlu’r Ŵyl yn gallu bod yn “anodd” gydag aelod hollbwysig o’r teulu ar goll, meddai’r fam. 

Ond mae Rhiannon Donnelly eisiau annog unigolion i beidio teimlo’n rhy anghyfforddus i drafod neu ofyn cwestiynau am golli plentyn.

“Ti’n clywed pobl yn dweud bob amser: ‘I hope I go before my kids.’ Ond mae ddim yn gweithio fel hwnna trwy’r amser,” meddai wrth siarad â Newyddion S4C

“Achos hynny mae pobl ddim yn gwybod beth i ddweud… ond fel rhiant, ni eisiau cofio’r plentyn, ni eisiau dathlu nhw. 

“Mae jyst gofyn ‘beth oedd enw hi?’, neu ‘dwi’n sori’, neu ‘ti eisiau siarad amdani?’ yn helpu.”

Image
Ultrasound
Sgan Mabli a Gruff yn y groth

'Cyfnod heriol'

Mae'r Nadolig yn gallu bod yn gyfnod “unig iawn” i’r rhieni sydd wedi colli plentyn, meddai elusen sy’n cefnogi teuluoedd gyda galaru marwolaeth plentyn. 

“Gyda chymaint o ffocws ar deulu, plant a chymdeithasu, mae’r rheini sy’n byw â cholled yn gallu teimlo’n hyd yn oed yn fwy unig gyda’u galar,” meddai llefarydd ar ran Sands.

Ond mae’r teulu yn cael cysur gan efell Mabli, Gruff sy’n dwy oed, a’i babi newydd-anedig Ffion, sydd bellach yn dair mis oed. 

“Os mae Gruff yn ‘neud rhywbeth ti’n meddwl: ‘fydd Mabli yn ‘neud hwnna? Beth fydd hi’n fel?’

“Ond fi’n cael cymorth gan feddwl pethau fel mae Mabli ‘di byw ymlaen mewn Ffion, ein babi bach ni, ac ‘odd hi ‘di helpu ni trwy y tro yma pryd o’n i’n feichiog.

“O’n i wastad yn meddwl mai Mabli’n edrych mas amdanom ni.”

Image
Gruff a Ffion
Gruff a'i chwaer ifanc, Ffion

'Pwysig cofio'

Mae’r Nadolig yn gyfnod pwysig i gofio Mabli, medd Rhiannon Donnelly, ac fe fydd y teulu’n ymweld â’i bedd wedi i’w plant cael agor eu hanrhegion. 

Mae’r teulu’n ymweld â Mabli yn ddyddiol, ac maen nhw'n dathlu Diwrnod Mabli ar 6 Hydref bob blwyddyn i gofio amdani. 

“Mae Gruff yn siarad amdani, ni’n mynd lawr i fedd Mabli bron pob dydd i weld hi a mae e’n gwybod ble mae Mabli," meddai Rhiannon Donnelly.

“Mae’n rhoi sws iddi hi a mae’n siarad iddi hi… fel ‘helo Mabli,’ ‘caru ti’ a pethau fel hwnna. 

“Byddwn ni wastad yn siarad amdani hi i Gruff ac i Ffion hefyd.”

Image
Rhiannon Donnelly
Rhiannon Donnelly a'i theulu

Mae siarad am Mabli yn gymorth i Rhiannon Donnelly wrth iddi alaru, meddai, ac mae’n gobeithio y gall pobl fod yn fwy agored i drafod pynciau “tabŵ” fel marwolaeth plentyn er lles y rhieni yn yr un sefyllfa.

“Os ti’n sôn am Mabli, ti’n gweld y person arall yn teimlo’n anghyfforddus, ond os dwi ddim yn sôn am Mabli – am ddiwrnodau – byddai’n teimlo’n euog," meddai.

“Mae’n rili anodd gwybod beth i ‘neud.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.