Newyddion S4C

Y ‘Tŷ Hapus’ sy’n addurno at bob achlysur yn Llanrug

26/12/2023

Y ‘Tŷ Hapus’ sy’n addurno at bob achlysur yn Llanrug

Wrth i bobl ffarwelio gyda’r Nadolig a wynebu tynnu’r tinsel oddi ar y goeden, mae un tŷ mewn pentref yng Ngwynedd yn meddwl am y set nesaf o addurniadau fydd yn mynd i fyny. 

Yn draddodiadol cyfnod y Nadolig yw’r amser mwyaf poblogaidd i addurno’r tŷ, gyda nifer yn addurno coed gydag addurniadau a golau bach, ond i Carol Williams o Lanrug mae addurno yn digwydd drwy gydol y flwyddyn. 

O Ddydd Gŵyl Dewi i Galan Gaeaf, mae Ms Williams yn addurno y tu allan i’w thŷ yn Llanrug ar gyfer bob achlysur neu ŵyl. 

“Swni'n dweud dwi ‘di bod wrth ers tua chwe mlynedd, ond gan fod pobl yn sôn wan, dwi wastad yn meddwl be ga'i neud nesa," meddai.

“Yn ystod y cyfnod clo nes i ddechrau gwneud pom poms gwahanol liwiau o gwmpas yr ardd, oedd o weld yn codi calon pobl leol. Natho ni dderbyn voucher gan fwyty lleol efo neges yn deud ‘Tŷ hapus’. 

“A dyna pryd nes i sylwi bod pobl yn licio ac yn edrych ymlaen at weld be s'gen i nesa. 

“Dwi’n neud Gŵyl Dewi, Dydd Sul Cofio, Santes Dwynwen, Calan Gaeaf, bob achlysur allai feddwl am.” 

Image
newyddion
Sul y Cofio 

Mae Ms Williams wedi synnu at faint o bobl leol sy’n gwerthfawrogi ei hymdrech, ac mae hi a’i thŷ wedi dod yn adnabyddus o gwmpas y pentref a thu hwnt. 

“Dim ond wsos yma ges i flodau gan rywun oedd isio deud bod nhw yn gwerthfawrogi'r addurniadau a bod o yn codi calon so oedd hunan neis," meddai.

“A dwi’n cael lot fawr o bobl yn stopio fi yn stryd a rhieni yn deud wrth eu plant; ‘ti gwybod pwy ydi’r lady yma, hi sy’n neud y pom poms’ a dwi’n cael lot o blant efo anableddau dysgu yn sylwi bod fi wedi newid yr addurniadau, ma’ hunan neis.

“Dwi di cael lot o bobl yn deud, bod yr addurniadau yn rheswm pam bod nhw yn licio dod i’r pentref ac os ydion neud pobl yn hapus mae o yn neud fi’n hapus.”

Image
newyddion
Dyn eira wedi ei wneud o hen deiars

Mae Ms Williams yn defnyddio bagiau plastig wedi eu hailgylchu i wneud y pom poms ac mae hi’n eu hailddefnyddio yn flynyddol. 

“Dwi di rhoi cais ar y cyfryngau cymdeithasol am addurniadau neu bethau allai ddefnyddio i neud addurniadau a dwi wedi cael llwyth o bethau," meddai.

“Dwi wedi neud dyn eira allan o hen deiars, ond mae o yn bwysig i fi bod ailgylchu a bod nhw yn cael eu cadw at dro nesa a bod fi ddim yn llechio nhw. Felly gennai dipyn o fagia pom poms yn y tŷ!” 

I Ms Williams roedd addurno’r ardd a thu allan i’w thŷ gyda pom poms glas a melyn i ddangos cefnogaeth i bobl Wcráin yn un o’r addurniadau fwyaf cofiadwy. 

“Dwi meddwl bod addurno yn ffordd bac hi ddangos cefnogaeth, ac roedd 'na bobl wedi deud wrtha i fi bod nhw’n falch o’r pom poms glas a melyn.” 

Image
newyddion
Pom poms gals a melyn i ddangos cefnogaeth i Wcráin

Ond wrth addurno mae’r cadw a thacluso yn dilyn- rhywbeth sydd hefyd yn cymryd peth ymdrech.

“Dwi’n tynnu'r rhai Dolig i lawr rhwng y Nadolig ar Flwyddyn Newydd," meddai. " Mae o yn cymryd rhyw wsos, wsos a hanner i roi nhw fyny a’r run peth i dynnu nhw lawr.

“Dwi meddwl mai Sant Ffolant sydd nesa felly fyddai’n rhoi calonnau coch a pom poms coch i fyny a ma’ hwnnw ond yn ddiwrnod. Mae’r Nadolig wastad yn wahanol achos dwi’n gallu adio at yr addurniadau dros gyfnod.”

Neges fawr Ms Williams i bob tŷ yw cadw’r addurniadau yn daclus. 

“Ar un adeg o’n i ddim yn cadw nhw yn daclus ac oedd o yn drafferth wedyn pan oedd hi’n dod i flwyddyn wedyn oedd o yn strach. 

“Rŵan labelu pethau ydi’r peth pwysicaf i fi. Nodi pa liw ydi’r goleuadau. A chofio i ba ŵyl maen nhw dwi’n rhoi lliwiau ar y bocys so oren i Galan Gaeaf a coch i’r Nadolig.”

Image
newyddion
Mae Calan Gaeaf yn achlysur mawr yn nhŷ Ms Williams 

Yn ôl Ms Williams, mae pobl yn dweud wrthi “alli di ddim stopio rŵan".

“Ac mae hynny yn deimlad cynnes iawn,” meddai.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.