Dirwy o £200,000 i Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ar ôl i glaf ladd ei hun
Dirwy o £200,000 i Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ar ôl i glaf ladd ei hun
Rhybudd: Mae'r erthygl isod yn cyfeirio at hunanladdiad.
Mae bwrdd iechyd gogledd Cymru, Betsi Cadwaladr wedi cael dirwy o £200,000 ar ôl i ddynes ladd ei hun mewn uned iechyd meddwl ym Mangor.
Clywodd Llys Ynadon Llandudno fod Dawn Owen, 46, wedi marw yn oriau mân y bore ar 20 Ebrill 2021 tra yn uned Hergest yn Ysbyty Gwynedd.
Clywodd y gwrandawiad nad oedd Ms Owen wedi cael ei hasesu yn gywir pan gyrhaeddodd yr uned, ac nad oedd asesiad risg cyfredol.
Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi ymddiheuro i deulu Ms Owen, a dywedwyd wrth y llys fod gwelliannau wedi'u cyflwyno er mwyn atal digwyddiad o'r fath yn y dyfodol.
Mi wnaeth Dawn Owen ffonio’r gwasanaeth Ambilwans ym mis Ebrill 2021 gan ddweud ei bod yn bwriadu lladd ei hun.
Chafodd ei chludo i Uned Iechyd Meddwl Hergest yn Ysbyty Gwynedd.
Fe gafodd Ms Owen ei rhoi mewn gwely anaddas a gŵn nos oedd â chortyn.
Fe glywodd y llys fod Ms Owen wedi dweud wrth staff ei bod yn bwriadu lladd ei hun, ond na wnaeth y gweithwyr godi pryderon pellach.
Hefyd gwnaed penderfyniad i beidio â chadw golwg arni mor aml.
Yn Llys Ynadon Llandudno, fe blediodd y Bwrdd Iechyd yn euog i fethu a chadw claf yn ddiogel tra yn eu gofal gan gynnig ymddiheuriad.