Newyddion S4C

Marwolaeth Matthew Perry yn ‘ddamwain’ wedi ei hachosi gan effaith cetamin medd crwner

16/12/2023
Matthew Perry

Roedd marwolaeth yr actor Matthew Perry yn ddamwain wedi ei hachosi gan “effaith dwys cetamin”, medd swyddogion meddygol yn Los Angeles yn yr UDA.

Cafodd boddi ei nodi fel ffactor wnaeth gyfrannu at ei farwolaeth.

Mewn datganiad dywedodd archwiliwr meddygol sir Los Angeles fod clefyd rhydwelïau coronaidd hefyd wedi cyfrannu at ei farwolaeth ynghyd â’r defnydd o feddyginiaeth i drin anhwylder o ganlyniad i ddefnydd opioid.

Cafodd Mr Perry, 54 oed, ei ddarganfod yn farw yn ei gartref yn Los Angeles ym mis Hydref.

Enwebwyd Perry am wobr Emmy am ei rôl fel Chandler Bing yn Friends, gafodd ei ddarlledu rhwng 1994 a 2004.

Ymunodd â’i gyd-sêr Jennifer Aniston, Courteney Cox, Matt LeBlanc, Lisa Kudrow a David Schwimmer ar gyfer aduniad arbennig a gynhaliwyd gan James Corden yn 2021.

Yn ystod ei amser ar y gyfres, cafodd drafferthion iechyd gyda dibyniaeth a gorbryder. Fe ddisgrifiodd ei broblemau yn ei hunangofiant Friends, Lovers, and the Big Terrible Thing a gyhoeddwyd yn 2022.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.