Newyddion S4C

Lluniau yn dangos cyflwr hen westy yng Ngwynedd lle arhosodd John Lennon

Corbett Arms

Mae lluniau y tu mewn i hen westy yng Ngwynedd a groesawodd westeion fel John Lennon a Yoko Ono ar un adeg, yn dangos cyflwr yr adeilad bellach.

Mae ystafelloedd The Corbett Arms yn Nhywyn wedi dirywio yn sylweddol ar sail lluniau sydd wedi eu cyhoeddi ar gyfer adroddiad a gafodd ei gomisynu gan Gyngor Gwynedd.

Mae'r cyngor yn ceisio bwrw ymlaen â chynlluniau i ddymchwel yr hen westy, gam wrth gam.

Mae Cyngor Gwynedd wedi gwneud cais am ganiatâd i ddymchwel yr adeilad yn raddol, a gwneud gwaith cynnal a chadw i sefydlogi’r strwythur fyddai'n parhau yno.

Ond mae grŵp SAVE Britain's Heritage wedi lobïo'r cyngor mewn ymgais i geisio achub yr adeilad.

Dywedodd Cyngor Gwynedd y byddan nhw'n ceisio achub cymaint o'r adeilad â phosibl.

Image
Corbett Arms

Yn ôl adroddiad ar gyflwr strwythurol y gwesty ar gyfer y cyngor, mae nifer o ddelweddau wedi eu tynnu nad oedd unrhyw un wedi eu gweld tan nawr.

Mae to'r neuadd ddawns wedi gollwng ac mae "risg uchel" y bydd cefn y prif adeilad "yn disgyn."

Hefyd mae un o ffenestri'r trydydd llawr wedi disgyn ac wedi achosi difrod i rannau arall o'r to, yn ôl casgliadau'r adroddiad.

Mewn ymgais i gadw golwg ar gyflwr y gwesty, mae drôn gyda chamera yn cael ei anfon unwaith yr wythnos i fonitro unrhyw ddifrod pellach.

Mae adroddiad gan beirianwyr John Evans Associates yn nodi  "nad yw'r adeilad yn ddigon sefydlog ar hyn o bryd i fynd i mewn iddo, o ystyried lleoliad y seler, a chyflwr gwael y strwythur."

Image
Corbett Arms

Ar ôl cyfathrebu gyda Chyngor Gwynedd, mae Cadw, sy'n gwarchod adeiladau hanesyddol Cymru, a pheiriannydd o gwmni Mann Williams yn dweud eu bod nhw nawr yn edrych i ymgymryd â'r cam cychwynnol o ddymchwel rhannau mwyaf ansefydlog yr adeilad.

Yna bydd adolygiad yn cael ei gynnal ar rannau mwyaf sefydlog yr adeilad, gyda'r bwriad o'u hadfer.

Yn dilyn trafodaethau gyda Cadw, bydd y cyngor yn penderfynu ar y cais i ddymchwel yr adeilad yn rhannol.

Mae cyfle i'r cyhoedd fynegi eu barn yn  ystod y cyfnod ymgynghori sydd yn parhau tan 20 Mehefin, 2025.





 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.