Newyddion S4C

'Sut bydd Siôn Corn yn dod o hyd i mi?': Galw am fwy o gymorth wrth i filoedd wynebu digartrefedd

11/12/2023
Marcel

“Sut bydd Siôn Corn yn medru dod o hyd imi os ydw i’n ddigartref?” 

Dyma’r cwestiwn mae bachgen anabl wyth oed wedi ei ofyn i’w fam ar ôl iddyn nhw gael eu gorfodi i symud o’u fflat cyn y Nadolig. 

Mae Marcel yn byw gyda’i fam, Sarah, mewn ystafell gwesty yng Nghaerdydd, wedi i gyn-berchennog eu llety benderfynu gwerthu’r fflat yr oeddynt yn ei rentu. 

Ond does unman arall i’r teulu fyw meddai Sarah wrth raglen BBC Wales Investigates, gan nad oes unrhyw lety gan y cyngor i ddarparu i bobl yn eu sefyllfa.

Wrth siarad â’r cyflwynydd Elen Wyn, dywedodd Sarah ei bod yn pryderu am lles ei mab sy’n byw ag anghenion dysgu ychwanegol. 

“Ni ddylai unrhyw blentyn orfod poeni os yw’n mynd i gael anrhegion ai peidio," ychwanegodd.

Image
Marcel a'i fam
Sarah a'i mab, Marcel

‘Argyfwng tai’

Mae Marcel yn un o 3,400 o blant sy’n cael eu gorfodi i fyw mewn llety dros dro yng Nghymru, yn ôl ffigyrau Llywodraeth Cymru. 

Fe ddaw hyn wrth i Lywodraeth Cymru wynebu’r “argyfwng tai gwaethaf” ers ei sefydlu, gyda dros 139,000 o bobl, gan gynnwys o leiaf 34,000 o blant, yn disgwyl i dderbyn tŷ i fyw ynddo gan awdurdodau lleol. 

Mewn ymateb i brofiad Marcel a’i fam, dywedodd Cyngor Caerdydd eu bod yn wynebu “galw digynsail’ ar gyfer cymorth, ac mae’n blaenoriaethu symud teuluoedd allan o westai lle bo’n bosibl, gyda chynlluniau i adeiladu mwy o lety dros dro yn y dyfodol agos. 

Ond mae’r corff sy’n cynrychioli cynghorau, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, wedi dweud yn sgil yr argyfwng tai, fod awdurdodau lleol dan “bwysau anferth,” gan ychwanegu “does dim digon o gyflenwad” o dai.

'Dyw e ddim yn gartref'

Yn fam i dri o blant, mae Tracy wedi rhannu ystafell llety gyda’i theulu ers dros flwyddyn. 

Roedd Tracy yn rhentu tŷ pedair ystafell yn Sir Ddinbych, pan benderfynodd y perchennog i’w werthu. 

Cafodd y teulu eu hanfon i westy yn Y Rhyl gan yr awdurdod lleol, hyd nes i lety arall gael ei ddarganfod. 

Image
Tracy
Yn fam i dri o blant, mae Tracy wedi rhannu ystafell  gyda’i theulu ers dros flwyddyn

Ond maen nhw’n disgwyl gwario eu hail Nadolig yn y gwesty, a hynny gyda dros 100 o bobl ddigartref arall eleni. 

“Dwi methu diolch digon i’r gwesty… ond ‘dyw yn gartref,” meddai Tracy. 

Dywedodd Cyngor Sir Ddinbych fod y galw am dai cymdeithasol yn fwy na'r cyflenwad a bod llety dros dro yn cael ei ddefnyddio "am gyfnod hirach o lawer" nag y byddai'n ei hoffi. Ychwanegodd eu bod yn cydweithio gyda Tracy er mwyn dod o hyd i ateb parhaol.

‘Anghyfreithlon’

Mae un arbenigwr bellach wedi galw am fwy o gymorth i gael ei ddarparu’n fuan, gan ddweud bod gosod pobol mewn llety dros dro “anaddas” am fwy na chwe wythnos yn “anghyfreithlon,” yn ôl rheolau tai Cymru.

Dywedodd yr Athro Peter Mackie o Shelter Cymru: “Petawn ni’n trin yr argyfwng yma gyda’r un brys a wnaethon ni ymdrin â Covid-19… fe fyddwn ni’n dod o hyd i ddatrysiad. 

“Mae angen i ni adeiladu mwy, ac mae angen i ni adeiladu’n gyflymach,” meddai. 

Dywedodd Gweinidog Tai Llywodraeth Cymru, Julie James, bod aros yn hir am lety addas yn “argyfwng iechyd.”

“Rydym yn mynd mor gyflym ag y gallwn ni i roi rhaglen llety ar waith, ac wrth gwrs, mae gennym ein targedau i adeiladu 20,000 o gartrefi cymdeithasol gweddus i'w rhentu hefyd.”

Prif lun: BBC Cymru

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.