Newyddion S4C

'Eithafol a mysogynistaidd': Gwennan Harries yn ymateb i sylwadau Joey Barton

09/12/2023

'Eithafol a mysogynistaidd': Gwennan Harries yn ymateb i sylwadau Joey Barton

Mae cyn chwaraewraig pêl-droed Cymru, Gwennan Harries, yn dweud y gallai sylwadau "misogynistaidd" am ddarlledwyr pêl-droed benywaidd osod rhagor o rwystrau yn ffordd merched yn y diwydiant.

Mae’r cyn pêl-droediwr Joey Barton wedi ei feirniadu am ei sylwadau ar y cyfryngau cymdeithasol dros y dyddiau diwethaf, wedi iddo ddweud nad yw merched yn “gymwys” i drafod pêl-droed dynion ar y cyfryngau.

Fe wnaeth Barton, a gafodd ei ddiswyddo fel hyfforddwr clwb Bristol Rovers fis Hydref, ddweud ar gyfrwng cymdeithasol X (Twitter gynt) nad oedd merched yn gallu trafod “gêm y dynion gydag unrhyw awdurdod”.

Dywedodd hefyd fod pêl-droed menywod yn “gêm gwbl wahanol”.

"Mae gêm y merched yn llwyddo," meddai. "Ffantastig i weld. Ni allaf gymryd unrhyw beth maen nhw’n ei ddweud o ddifri pan maen nhw’n siarad am gêm y dynion."

Ni fydd Barton yn wynebu cosb gan gorff llywodraethu pêl-droed Lloegr, y Football Association (FA) am dorri eu rheol cyfryngau cymdeithasol, gan ei fod wedi eu gwneud tra ei fod allan o waith, ac felly allan o’u hawdurdodaeth.

Image
Gwennan Harries
Fe sgoriodd Gwennan Harries 18 gôl mewn 56 gêm dros Gymru yn ystod ei gyrfa ryngwladol (Llun: Asiantaeth Huw Evans)

‘Rhwystredigaeth’

Mae Gwennan Harries, a wnaeth sgorio 18 gôl mewn 56 gêm dros Gymru, yn llais cyfarwydd i gefnogwyr pêl-droed Cymru, fel sylwebydd ac arbenigwraig ar raglen Sgorio ar S4C.

Mae hi’n dweud fod cyfrifoldeb ar y cwmnïau sydd yn rhedeg cyfryngau cymdeithasol i beidio â chynnig platfform i sylwadau “eithafol” o’r fath.

Wrth ymateb, dywedodd Ms Harries: “Yn anffodus, dwi ddim yn synnu. Rhwystredigaeth a siom dwi’n teimlo mwy na unrhyw beth achos o’r platfform sydd ganddo.

“Mae agweddau fel hwnna yn mor eithafol ac mor misogynistic. Fi’n casáu’r ffaith bod e’n cael sylw am y peth achos mae’n amlwg mai dyna beth mae e moyn. Ond yn anffodus mae gwefannau cymdeithasol fel hynny yn rhoi platfform i bobl rhoi barn eithafol.

"Mae’r holl bobl sydd yn gwneud y sylwadau yma erioed 'di dod lan yn erbyn rhwystr. Mae popeth di bod yn hawdd iddyn nhw, yn enwedig rhywun fel Joey Barton. 

"A dyna beth sydd mor siomedig. Does dim syniad ‘da fe. Mae e angen addysgu ei hun yn y lle gyntaf cyn dechrau siarad yn y ffordd yna.

“Fi yn teimlo fel bod cyfrifoldeb ar berchnogion X i edrych ar ôl bobl, nid just o’r rhan merched, ond o safbwynt hil hefyd – mae gymaint o bobl yno sy’n rhoi barn gwbl anghywir a di nhw ddim yn cael eu cosbi. 

"Ond os fysan nhw’n dweud hynny ar y stryd, mi fydda nhw yn cael eu cosbi. Mae cyfrifoldeb mawr ar y cwmnïoedd yma.”

'Diffyg parch'

Mae Gwennan yn dweud y gallai sylwadau o’r fath ei gwneud hi’n anoddach yn y dyfodol i sylwebwyr benywaidd gael eu parchu gan gefnogwyr pêl-droed.

“Yn anffodus, ydw, dwi wedi dod ar draws yr agwedd yma o’r blaen,” meddai. “Falle dim llawer i gymharu ag eraill - fi wastad wedi teimlo fel bod y Cymry Cymraeg yn gefnogol iawn. 

"Ond tu allan i hwnna, yn anffodus mae gen i ffrindiau sydd yn cael sylwadau yn ddyddiol ac eto mae gwefannau cymdeithasol yn rhan fawr o hwnna. 

“Fi yn credu fod 'na ddiffyg parch. Mae pethau eraill yn gwella, y cyfleoedd, y cyflog, y sylw o gwmpas pêl droed merched, i gyd wedi gwella’n aruthrol, ond mae wastad yn bwydo nôl i’r parch yna.

“Mae’n normal i weld chwaraewyr merched ar y teledu, ac mae'n hyfryd gweld y datblygiad ‘da ni wedi ei weld dros y pum mlynedd diwethaf.

“A gan ystyried bod Joey Barton gyda merch ei hun, fi methu credu bod e’n bwydo’r effaith yna, ac mae’r consequences o hynny yn golygu falle bydd llai o gyfleodd i’w ferch e yn y dyfodol."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.