Newyddion S4C

Dyfodol tair o ganolfannau ymwelwyr Cyfoeth Naturiol Cymru yn y fantol

Canolfan Ymwelwyr Ynyslas

Mae dyfodol tair canolfan ymwelwyr dan fygythiad wrth i Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC) gynnal adolygiad.

Mae deiseb wedi’i chreu ddydd Iau i achub Canolfan Ymwelwyr Ynyslas rhag cau, gydag ymgyrchwyr yn dweud y bydd cau'r ganolfan yn "ddim byd yn llai na thrychineb bywyd gwyllt".

Fe wnaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, sy'n rhedeg canolfan Ynyslas, gadarnhau eu bod nhw'n cynnal adolygiad o'u tair canolfan ymwelwyr wrth iddyn nhw geisio torri costau.

Fe all canolfan Ynyslas ger Borth, canolfan Bwlch Nant yr Arian ger Aberystwyth a chanolfan Coed y Brenin ger Dolgellau gau yn y dyfodol.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru bod "cyllid cyhoeddus yn eithriadol o dynn".

“Mae ein canolfannau ymwelwyr yn adnodd sy’n cael ei garu’n fawr ymhlith pobl leol ac ymwelwyr o ymhellach i ffwrdd ac mae’r staff sy’n eu gweithredu yn cael eu hystyried yn gwbl briodol fel wyneb CNC," medden nhw.

“Fodd bynnag, mae cyllid cyhoeddus yn eithriadol o dynn ar draws y DU gyfan. Oherwydd hyn mae’n rhaid inni edrych ar draws ein holl gylch gwaith ac adolygu’n feirniadol, ac y mae’n rhaid i ni barhau i adolygu pa brosiectau rydym yn dirwyn i ben a pha brosiectau sydd yn cael eu harafu.

“Nid yw hyn yn wahanol i unrhyw gorff sector cyhoeddus arall ar hyn o bryd.

“Mae ein canolfannau ymwelwyr yn rhan o’r adolygiad hwn, ond nid oes penderfyniad wedi’i wneud eto ar sut y byddant yn gweithredu yn y dyfodol.

“Dros y misoedd nesaf byddwn yn llunio opsiynau ac argymhellion ar gyfer y dyfodol a bydd y penderfyniadau terfynol ar gyfer 2024/25 yn cael eu gwneud gan ein Bwrdd cyn diwedd mis Mawrth.”

Image
Canolfan Coed y Brenin
Canolfan Ymwelwyr Coed y Brenin. Llun: Cyfoeth Naturiol Cymru

'Ffynhonnell amrhisadwy'

Mae deiseb wedi cael ei chreu yn galw i beidio gau Canolfan Ymwelwyr Ynyslas.

Erbyn hyn mae wedi denu 2,000 o lofnodion, ac mae crëwr y ddeiseb yn dweud bod nifer yn dibynnu ar y ganolfan.

"Dwi, fel llawer o bobl eraill yn ein cymuned, yn dibynnu ar Ganolfan Ymwelwyr Ynyslas am fwy na lle i gael diod boeth yn unig," meddai June Lincoln.

"Fel addysgwr, rwy’n defnyddio’r ganolfan hon i ddysgu fy myfyrwyr bywyd gwyllt. Mae'r ganolfan yn ffynhonnell amhrisiadwy o wybodaeth ac addysg.

"Byddai ei chau nid yn unig yn golled i ni fodau dynol ond hefyd yn fygythiad sylweddol i'r ecosystemau bregus.

"Bydd cau Canolfan Ymwelwyr Ynyslas yn arwain at ganlyniadau pellgyrhaeddol y tu hwnt i'r hyn a welwn heddiw - ni fydd yn ddim llai na thrychineb bywyd gwyllt."

Mae Liz Saville Roberts, Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Ddwyfor Meirionydd yn dweud ei bod wedi gofyn am gyfarfod brys gyda CNC.

"Pryderus iawn i fod yn y dyfodol canolfan Coed y Brenin yn ansicr," meddai.

"Dyma adnodd sy’n dod a chyfoeth o fanteision hamdden ac economaidd i’r ardal. Mae Mabon ap Gwynfor a minnau wedi gofyn am gyfarfod brys â Chyfoeth Naturiol Cymru i drafod hyn."

Prif lun: Cyfoeth Naturiol Cymru

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.