Newyddion S4C

Twyllo cleientiaid: Dedfrydu cyn gyfreithiwr yn yr Wyddgrug

08/12/2023
Richard Hallows

Mae dyn 66 oed wedi'i garcharu am dros bum mlynedd ar ôl iddo dwyllo wrth weithio fel cyfreithiwr yn yr Wyddgrug.

Ymddangosodd Richard Hallows, o Benarlâg, ger bron Llys y Goron Caernarfon ddydd Gwener ar ôl pledio'n euog i dwyll drwy gamddefnyddio ei swydd.

Amcangyfrifir fod cyfanswm y colledion i gleientiaid dros £880,000.

Rhwng 2016 a 2018, wrth weithredu ar ran ei gleientiaid, defnyddiodd Hallows gronfeydd a ddylai fod wedi bod mewn cyfrifon cleientiaid er ei elw personol ei hun, gan roi ei ddioddefwyr mewn perygl o ddioddef colledion sylweddol.

Fe wnaeth yr heddlu ymchwilio pum cwyn ar wahân o weithgarwch twyllodrus, hefo'r golled unigol uchaf yn £600,000.

Derbyniodd ddedfryd o bum mlynedd a 10 mis o garchar.

Dywedodd y Ditectif Gwnstabl David Hall o'r Uned Troseddau Economaidd: "Da ni'n croesawu canlyniad heddiw sy'n benllanw ymchwiliad hir a heriol.

"Ni ddylai'r rhai hynny sy'n twyllo feddwl y gwnaiff galwedigaeth broffesiynol sy'n edrych yn barchus ar y tu allan eu gwarchod nhw rhag cael eu craffu."

‘Llanast’

Gofynnodd un cleient am gronfeydd werth £600,000 yn ôl a chael sawl esgus gan Hallows. 

Roedd y rhain yn cynnwys ei fod wedi methu awyren a thrên, fod ei gyn wraig wedi llewygu, fod ei ferch yn derbyn llawdriniaeth a bod y banc angen saith diwrnod gwaith er mwyn prosesu'r cais. 

Ni roddodd Hallows y cronfeydd yn ôl.

Fe wnaeth cleient arall benodi Hallows fel ysgutor stad werth £143,000 yn dilyn marwolaeth aelod o'r teulu. Rhwng 2016 a 2018 rhoddwyd sawl esgus am beidio rhannu'r stad rhwng y teulu. 

Yn dilyn ymchwiliadau, canfuwyd fod Hallows wedi defnyddio'r cronfeydd ar gyfer pethau eraill.

Fe ychwanegodd DC Hall: "Ar y pryd, roedd Hallows yn gyfreithiwr wedi'i reoleiddio gan yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr (SRA), a hefo practis ei hun.

“Fe wnaeth o ddwyn yr arian o gyfrif y cleient er mwyn talu ei ddyledion ef ei hun yn hytrach na dyledion ei gleientiaid.

"Mae ei ymddygiad wedi gadael llanast i ddioddefwyr a wnaeth ymddiried ynddo fo a'r gwasanaethau proffesiynol roedd yn honni eu cynnig.

"Fe wnawn ni barhau i gydweithredu'n agos hefo asiantaethau partner er mwyn dod ag unrhyw un sy'n camddefnyddio eu swydd gyfrifol o flaen eu gwell.

"Buaswn i'n hoffi diolch i Isadran Ryngwladol a Throseddau Difrifol, Economaidd a Threfnedig GEG a Nicola Daley y Cwnsler Erlyn am eu cyngor a'u help yn ystod yr ymchwiliad, gan ddod â diwedd llwyddiannus i'r mater."

‘Erlyn’

Dywedodd Claire Busby, Erlynydd Arbenigol o GEG: "Fe wnaeth Hallows gamddefnyddio ei swydd gyfrifol fel cyfreithiwr er ei elw personol ef ei hun. Wrth wneud, fe roddodd ei gleientiaid mewn perygl o ddioddef colled ariannol fawr. 

"Bydd achos atafaelu yn cael ei wneud yn erbyn Mr Hallows. 

"Mae GEG wedi ymroi cydweithredu'n agos hefo'r heddlu er mwyn taclo twyll a dod â throseddwyr o flaen eu gwell. 

“Ni wnawn ni betruso cyn erlyn mewn achosion fel hyn."

Os oes unrhyw un yn meddwl eu bod nhw wedi dioddef twyll, mi allwch chi riportio pryderon wrth yr heddlu drwy ein gwefan ni neu drwy ffonio 101, neu fel arall drwy Action Fraud.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.