Newyddion S4C

Merch naw oed yn dawnsio eto ar ôl colli ei choes mewn damwain

10/12/2023

Merch naw oed yn dawnsio eto ar ôl colli ei choes mewn damwain

“Sai’n mynd i cadw fe stopo fi neud be fi’n caru”.

Dyma eiriau merch naw oed a gollodd ei choes mewn damwain.

Ym mis Mehefin 2022, anafwyd Alys Rydaman yn ddifrifol mewn damwain yn yr ardd gan achosi iddi golli ei choes. 

Cafodd driniaeth frys yn Ysbyty Treforys, a bu’n rhaid i’w rhieni egluro i’w merch y byddai yn colli ei choes o dan ei phen-glin.

“Odd e ddim yn rhywbeth rhwydd i ddweud o gwbl,” meddai ei thad, Dylan Davies ar raglen Drych ar S4C. 

”Bydd e’n ddiwrnod bydda’i byth yn anghofio.”

Yn blentyn bach dilynodd Alys ei chwaer fawr a’i mam i fyd dawnsio creadigol, gan syrthio mewn cariad â dawnsio, a chystadlu bob cyfle a gafodd.

Fe wnaeth hi wireddu ei breuddwyd wrth gystadlu ar lwyfan Eisteddfod yr Urdd llai na blwyddyn ar ôl colli ei choes. 

Image
newyddion
Alys yn yr ysbyty 

'Troi cornel'

Dywedodd Nia Davies, ei mam: “Odd y physios yn dod yn y bore a gosod ambell i her iddi, wel erbyn canol y dydd bydd hi’n gweud ‘Mami, ma isie i ti weud ‘tho nhw ddod nôl achos dwi’n gallu neud hwnna nawr’.”

Bythefnos wedi’r ddamwain roedd Alys nôl yn yr ysgol, a llai na deufis wedi hynny roedd yn cerdded gyda help coes brosthetig.

“Odd hi di troi’r gornel pan gath hi’r goes na. Pan ddath i 'adre a pan ath hi lan y parc yn syth – ar ôl gweld ‘ny, o’n i’n gwbod bydde dim problem,” meddai ei mam.

'Caru dawnsio'

Roedd Alys yn benderfynol nid yn unig i ddawnsio eto, ond i gystadlu yn Eisteddfod yr Urdd Sir Gâr 2023 gydag Adran Penrhyd. 

Ym mis Chwefror 2023, dechreuodd y broses o gael llafn chwaraeon arbennig newydd i ddawnsio arni, ac yna i ddechrau ei thaith i’r llwyfan fawr – ac i fuddugoliaeth.

“Sai’n mynd i cadw coes fi’n stopo fi neud be fi’n caru,” meddai Alys.

“Dwi’n dawnsio achos mae’n neud fi’n hapus ac achos mae’n neud fi deimlo fel fi’n free.” 

Bydd Drych: Stori Alys yn cael ei darlledu nos Sul fel rhan o dymor Mis Anabledd S4C.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.