Newyddion S4C

18% o bobl Cernyw yn ystyried eu hunain yn Gernywaidd

08/12/2023
Polperro

Mae 18% o bobl yng Nghernyw yn ystyried eu hunain yn Gernywaidd, yn ôl data sydd wedi ei ryddhau gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Yng nghyfrifiad 2021, fe wnaeth 117,350 ddweud eu bod yn ystyried eu hunaniaeth genedlaethol i fod yn Gernywaidd.

O’r nifer yma, roedd 88% o’r bobl yn byw yng Nghernyw, sydd gyfystyr ag 18.1% o boblogaeth y sir.

Roedd y cyfraddau uchaf o’r bobl hyn wedi eu lleoli yng ngorllewin y sir, gydag un allan o bob pedwar yn ardal Gogledd Penzance/Pennsans yn ystyried eu hunain yn Gernywaidd.

Roedd proffil oedran yr ymatebwyr dan sylw ychydig yn hŷn, yn ôl y Swyddfa Ystadegau, gyda’r oedran cyfartalog o’r bobl gyda hunaniaeth Cernywaidd yn 49 oed.

Fe wnaeth Cyngor Cernyw annog pobl i “ddweud ein bod yn Gernywaidd” cyn y cyfrifiad yn 2021, gan nad oedd bocs ar y ffurflen i bobl ei dicio oedd yn cynnig Cernywaidd fel dewis hunaniaeth genedlaethol.

Roedd yn rhaid i’r rhai oedd yn dymuno mynegi hynny ysgrifennu ‘Cernywaidd’ yn y blwch gwag gerllaw.

Llun: Flickr/ukgardenphotos

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.