Newyddion S4C

Ysgolion Sir Gâr 'wedi dyblu gwariant' ar staff asiantaethau mewn pedair blynedd

08/12/2023
Ysgol

Mae ysgolion yn Sir Gaerfyrddin wedi dyblu eu gwariant ar staff o asiantaethau mewn cyfnod o bedair blynedd.

Cyfanswm y gwariant ar asiantaethau gan ysgolion cynradd ac uwchradd y sir oedd £4.9 miliwn yn 2019-2020 a £9.6 miliwn yn 2022-23.

Daw’r ffigyrau o adroddiad i'r cyngor am drefniadau staff llanw a drafodwyd gan y Pwyllgor Craffu Addysg, Pobl Ifanc a'r Gymraeg.

Yn ôl Julie Start o adran adnoddau dynol yr awdurdod mae’r ffigyrau yn “frawychus”.

Ond dywedodd ei bod yn ddrytach i ysgolion gyflogi staff yn uniongyrchol oherwydd ffactorau fel costau pensiwn athrawon. 

Ychwanegodd Aneirin Thomas, pennaeth gwasanaethau addysg a chynhwysiant, fod y cynnydd mewn gwariant ar athrawon o asiantaethau yn gysylltiedig â grantiau â therfyn amser a roddwyd gan Lywodraeth Cymru i reoli effaith Covid.

Dywedodd Mr Thomas: “Ni all y patrwm barhau oherwydd nid yw’r grantiau yno mwyach.”

Rhybuddiodd hefyd fod y cyfnod “hynod o heriol” o’u blaenau yn ariannol.

Mae angen staff cyflenwi ar ysgolion i gyflenwi yn absenoldebau tymor byr a hirdymor, ond hefyd i weithio gyda disgyblion sy’n aros am asesiad anghenion dysgu ychwanegol.

Codi ffi

Yn ôl yr adroddiad, daeth yr athrawon cyflenwi o asiantaethau oedd yn talu'r aelod o staff ac yn codi ffi ar ben hynny, neu'n cael eu cyflogi'n uniongyrchol gan y cyngor.

Mae 23 o asiantaethau yn cael eu defnyddio gan Gyngor Sir Gaerfyrddin fel rhan o fframwaith athrawon cyflenwi Cymru gyfan. 

Ond yn Ynys Môn mae cynllun gwahanol yn cael ei dreialu i greu cronfa genedlaethol o athrawon cyflenwi.

Aeth yr adroddiad ymlaen i drafod rôl goruwchwylwyr cyflenwi mewn ystafelloedd dosbarth. 

Mae goruwchwylwyr yn llawer rhatach i'w cyflogi trwy asiantaeth nag athro sydd yn aelod o staff ysgol.

Awgrymodd tystiolaeth yn yr adroddiad,y gallai rhai ysgolion fod yn defnyddio athrawon ar gyfer gwaith y gellid ei wneud gan oruchwylydd llanw am lawer llai o gost. 

Ond dywedodd hefyd fod ysgolion yn cydnabod gwerth goruchwylwyr llanw ar gyfer absenoldebau tymor byr, a bod tri chwarter o ysgolion uwchradd yn Sir Gaerfyrddin yn cyflogi hyd at bedwar ohonynt yn barhaol.

Arbediad

Daeth yr adroddiad i’r casgliad bod defnyddio goruchwylwyr cyflenwi ar gyfer absenoldebau athrawon tymor byr wedi arwain at arbediad, ond bod angen gwell rheolaeth ar absenoldebau hefyd.

Dywedodd Mr Thomas mai sefydlogrwydd staff dysgu oedd un o'r prif ffyrdd o sicrhau cyrhaeddiad disgyblion.

Bydd y cyngor yn parhau i fonitro’r defnydd o staff cyflenwi a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r pwyllgor am effaith y treial athrawon cyflenwi yn Ynys Môn.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.