Newyddion S4C

'Heb yr Ambiwlans Awyr, fyddwn i ddim yma', meddai taid a gafodd ei daro gan yrrwr meddw

02/12/2023
Simon Edmonds

Mae taid o’r Fenni yn Sir Fynwy wedi diolch i Ambiwlans Awyr Cymru am achub ei fywyd yn dilyn damwain tra’n seiclo dair blynedd yn ôl.

Fe dreuliodd Simon Edmonds, 63 oed, ei Nadolig yn gorwedd mewn gwely yn yr ysbyty yn gwella o anaf i'w ymennydd ar ôl iddo gael ei daro oddi ar ei feic gan yrrwr 'taro a ffoi' meddw ar Noswyl Nadolig.

Fe gafodd gofal critigol gan griw Ambiwlans Awyr Cymru ar ochr y ffordd cyn iddo gael ei gludo i'r ysbyty.

Ni fu modd i'r taid i ddau gael unrhyw ymwelwyr oherwydd pandemig COVID-19, a'i unig gyswllt oedd galwad fideo gyda'i deulu ar Ddydd Nadolig. 

 

Roedd Mr Edmonds wedi mynd allan ar ei daith feicio ddyddiol amser cinio ar 24 Rhagfyr 2020. 

Nid oedd ond ychydig o filltiroedd i ffwrdd o'i gartref yn y Fenni pan gafodd ei daro o'r cefn a'i daflu ar fonet y car cyn taro ei ben ar y llawr. 

Diflannodd gyrrwr y car oddi yno, ond yn ffodus i Mr Edmonds, roedd meddyg oddi ar ddyletswydd yn y rhes o geir y tu ôl iddo a ddaeth i'w helpu. Daeth yr heddlu o hyd i'r gyrrwr yn ddiweddarach, a chafodd ei erlyn. 

Anafiadau difrifol

Dywedodd Mr Edmonds: "Daeth dau hofrennydd i'm helpu, a chafodd fy mrest ei draenio ar ochr y ffordd er mwyn ail-lenwi fy ysgyfaint cyn i mi gael fy nghludo i Ysbyty Athrofaol Cymru. 

"Roedd y rhan fwyaf o fy asennau chwith wedi torri, roedd fy ysgyfaint wedi ymgwympo, roedd pont fy ysgwydd wedi torri, ac roeddwn wedi torri asgwrn fy mhelfis mewn sawl lle. Roedd fy nueg wedi'i rhwygo, roedd ffibrau nerfol yn fy ymennydd wedi'u rhwygo, ac roedd gennyf waedlif ar arwyneb fy ymennydd.

"Roeddwn i'n ymwybodol drwy'r cyfan, gan gynnwys pan oeddwn i ar ochr y ffordd, ond cefais amnesia wedi trawma, ac rwy'n dal i fethu â chofio dim a ddigwyddodd rhwng tua 20 munud cyn y ddamwain a thua tridiau yn ddiweddarach. 

"Cefais alwad fideo gyda fy ngwraig a fy merch ar Ddydd Nadolig, ond er fy mod yn gallu cyfathrebu â nhw, dydw i ddim yn cofio gwneud hynny. Dydw i ddim yn cofio dim byd o gwbl am Nadolig 2020. 

"Roedd traciwr GPS fy ffôn symudol yn dal i redeg felly llwyddais i weithio allan ble a phryd y digwyddodd y ddamwain. Pan gefais fy rhyddhau o'r ysbyty, penderfynais fynd yn ôl ar gefn fy meic er mwyn olrhain fy nghamau. 

"Gan nad ydw i'n cofio'r ddamwain ei hun, doedd mynd yn ôl ar gefn fy meic ddim yn drawmatig; roedd gen i ddealltwriaeth ddeallusol o'r hyn a ddigwyddodd."

Trawmatig

Treuliodd Simon, sy'n beiriannydd meddalwedd a dylunydd cynnyrch wedi ymddeol, bum wythnos yn yr ysbyty, gan gynnwys ei ben-blwydd yn 61 oed. 

Dywedodd: "Byddai wedi bod yn Nadolig rhyfedd beth bynnag oherwydd y cyfyngiadau symud. Mae fy merch yn byw yng Nghanada ac mae fy mab yn byw ym Mryste, ac roedd y cyfyngiadau symud yn wahanol yn Lloegr ar y pryd. Byddai wedi bod yn un tawel, dim ond Freddy fy ngwraig a minnau. 

"Treuliodd Freddy y Nadolig ar ei phen ei hun, ac mae'n rhaid bod hynny wedi bod yn anodd iddi. 

"Galla i ond ddychmygu pa mor drawmatig y byddai wedi bod i fy nheulu. Profais yn bositif am COVID-19 hefyd, ac erbyn y pwynt hwnnw, doedd fy ngwraig ddim yn meddwl y byddai'n fy ngweld eto.

"Cefais anaf i'r ymennydd, ac am gryn amser roeddwn i'n gwadu hynny. Roedd yn anodd ei dderbyn.

"Rwyf wedi ymddeol yn ddiweddar, ac rwy'n bwriadu creu gwefan ar gyfer pobl ag anafiadau i'r ymennydd oherwydd roeddwn i'n ei chael hi'n anodd dod o hyd i wybodaeth synhwyrol ac ymarferol ar-lein. Bydda i'n gweithio gyda fy nhîm adsefydlu i wneud hyn." 

Image
Ambiwlans Awyr Cymru

Ychwanegodd Mr Edmonds fod Ambiwlans Awyr Cymru, heb os, wedi achub ei fywyd, ac er mwyn diolch iddi, cymerodd ran yn Her 'Fy 20' yr elusen drwy feicio 195 o filltiroedd yn ystod y mis a chodi  £485. 

Dywedodd: "Roeddwn i am wneud rhywbeth i godi arian ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru, ac er fy mod wedi bwriadu beicio 200 o filltiroedd, rhan o fy therapi yw derbyn mai dim ond rhifau yw rhifau ac na ddylwn i fod yn rhy galed arna i fy hun am y peth."

Dywedodd Mr Edmonds hefyd ei fod yn gobeithio cael Nadolig eithaf tawel eleni cyn i Emily ei ferch, a'i wyrion a'i wyresau, deithio adref i Gymru i ymweld yn y flwyddyn newydd.  

Dywedodd llefarydd ar ran Ambiwlans Awyr Cymru : “Mae’r elusen yn cael ei harwain gan feddygon ymgynghorol, ac mae'n mynd â thriniaethau o safon ysbyty at y claf ac, os oes angen, yn ei drosglwyddo'n uniongyrchol i'r ysbyty mwyaf priodol ar gyfer ei salwch neu anaf. 

"I'r claf, gall hyn arbed oriau o gymharu â gofal safonol ac mae'n cynyddu'r tebygolrwydd y bydd yn goroesi ac yn gwella'n gynnar yn sylweddol."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.