Newyddion S4C

Ian Walsh yn derbyn diagnosis canser y prostad

02/12/2023
Ian Walsh

Mae’r cyn-chwaraewr pêl-droed dros Gymru, Ian Walsh, wedi derbyn diagnosis o canser y prostad.

Fe wnaeth Mr Walsh, 65 oed, dderbyn diagnosis cynnar o’r cyflwr yn ystod Chwefror a Mawrth eleni.

Yn ystod ei yrfa pêl droed, fe enillodd 18 cap dros Gymru, a chwaraeodd fel ymosodwr dros sawl clwb gan gynnwys Abertawe a Chaerdydd.

Yn ddiweddarach, mae wedi gweithio fel sylwebydd pêl-droed ar y BBC.

Wrth ymddangos ar bodlediad Elis James’ Feast of Football, fe ddywedodd: “Cefais ddiagnosis nôl adeg Chwefror a Mawrth eleni. Roeddwn i wedi cael ambell i broblem felly es i mewn i gael prawf ar y gwaed, ac fe wnaeth hynny arwain at sgan MRI a biopsiau.

“Fe ddywedon nhw: “Ian, mae gen ti ganser ar y prostad.” Ond cyn i unrhyw un ymateb yn ormodol, mae’n rhaid dweud fy mod i mor ffodus oherwydd ei fod wedi cael ei ddal yn ystod y cyfnodau cynnar, felly dw i’n ddiolchgar iawn.”

Mae Mr Walsh yn llysgennad i elusen Prostate Cymru ac yn annog eraill i gael prawf am y cyflwr.

“Drwy hap a damwain cefais i brawf. Dywedodd y meddyg teulu wrthyf, ‘Ian, ti heb wneud prawf ers dwy flynedd’ – a doeddwn i methu credu ei fod wedi dangos fy mod efo canser y prostad.

“Dyw canser y prostad ddim yn eich lladd ar ei hun, ond yn dibynnu i ble mae’n ymledu. Ond dyw hi ddim yn ddiwedd y byd dim ond eich bod yn cael eich profi yn rheolaidd.

"Felly mae hyn i’r holl ddynion sydd yn 50 neu’n hynach – ewch i gael prawf antigen y prostad (prawf PSA).”

Llun: X/Ian Walsh

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.