Yr iaith Gymraeg yn ysbrydoli canwr opera Māori o Seland Newydd

26/11/2023
Kawiti Waetford

Mae canwr opera proffesiynol o Seland Newydd wedi dweud bod yr iaith Gymraeg wedi bod yn ysbrydoliaeth i’w ymdrechion ei hun i gynnal yr iaith Māori.

Māori oedd iaith gyntaf Kiwiti Waetford ond fe ddaeth ar draws yr iaith Gymraeg wrth astudio gradd meistr yn Academi Llais Ryngwladol Cymru yng Nghaerdydd.

Dywedodd fod yna bethau yng Nghymru y gallai Seland Newydd ddysgu ohonyn nhw wrth ail-sefydlu yr iaith Māori.

“Rydyn ni i raddau helaeth wedi cymryd a modelu sut maen nhw wedi gwneud pethau yng Nghymru,” meddai wrth Radio New Zealand.

“Roedd eu hysgolion meithrin yn fodel ar gyfer Kōhanga Reo [ysgolion meithrin Māori].

“Pan o’n i draw yno roedd yr holl bamffledi o’n i’n eu cael yn Gymraeg – ac ro’n i’n meddwl, beth ar y ddaear yw hyn?

“Ond roedd yn wych gweld eu hiaith yn cael ei roi tua’r blaen a Saesneg wedyn.

“Roeddwn i yn bersonol wedi cael fy annog yn fawr iawn gan weld y cynnydd oedden nhw wedi ei wneud. 

“Ac roeddwn i’n gwybod ein bod ni wedi modelu rhai o’r technegau er mwyn adfer yr iaith ar eu strategaethau nhw.

“O un gwlad y gân yma yn Aotearoa i un arall draw fan yna.”

‘Cyfle’

Dywedodd ei fod bellach yn hyfforddi cantorion eraill i ganu mewn Māori.

Roedd hynny nid yn unig yn cynnwys canwyr opera ond cerddoriaeth soul hefyd.

“Roeddwn i, yn enwedig fy nghenhedlaeth i, yn gynnyrch ymdrechion cyntaf adfywiad Te Reo Māori trwy fudiad Kōhanga Reo a mudiad Kura Kaupapa Māori,” meddai.

“Mae wedi rhoi cyfle i ni gael ein blaenoriaid, ein Tūpuna [cyn-dadau], ein Kaumātua [hynafwyr], Kuia [hynafwragedd] yn ymwneud â’r system addysg ochr yn ochr â ni.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.