Awdurdod S4C wedi 'terfynu cyflogaeth' Siân Doyle y Prif Weithredwr
Awdurdod S4C wedi 'terfynu cyflogaeth' Siân Doyle y Prif Weithredwr
Mae Awdurdod S4C wedi diswyddo Siân Doyle, Prif Weithredwr y sianel.
Daeth y cyhoeddiad ar ôl i'r Awdurdod ystyried canfyddiadau adroddiad gan gwmni cyfreithiol oedd wedi casglu tystiolaeth am "amgylchedd gwaith S4C".
Dywedodd datganiad gan yr Awdurdod ddydd Gwener mai'r bwriad oedd "gweithio tuag at benodi arweinydd newydd a all helpu i adfer S4C uchelgeisiol gyda ffocws o’r newydd ar gydweithio a llesiant ein cydweithwyr.
"Nid yw'r rhain byth yn benderfyniadau hawdd i'w gwneud. Fodd bynnag, rydym ni, fel Aelodau Awdurdod S4C, yn hyderus mai dyma'r penderfyniad cywir i'r sefydliad."
Ychwanegodd y datganiad: "Mae hwn yn fater sensitif, a rhaid inni ddilyn proses briodol. Fel Awdurdod S4C mae angen inni gydbwyso’n ofalus ein rhwymedigaethau mewn perthynas â thryloywder â llesiant pawb sy’n gysylltiedig â’r mater yma, a byddai’n amhriodol ychwanegu unrhyw beth at y datganiad hwn ar hyn o bryd am y penderfyniad a gyhoeddwyd heddiw.
"Maes o law, byddwn yn cyhoeddi adroddiad sy’n egluro ymhellach natur y dystiolaeth a dderbyniwyd yn ystod y broses canfod ffeithiau, y penderfyniadau a wnaed a’r camau y byddwn yn eu cymryd i sicrhau bod S4C yn darparu amgylchedd gwaith cadarnhaol a ffyniannus."
Mae Siân Doyle bellach wedi rhyddhau datganiad sy'n hynod feirniadol o'r penderfyniad i'w diswyddo.
Yn ei hymateb, dywedodd: "Roeddwn i mor angerddol am barhau â'r daith hon ac i weithredu ar y mandad a gafodd ei osod gan y Bwrdd, a dwi mor drist fod y cyfle hyn wedi cael ei gymryd oddi arna i heddiw."
Cyn ymuno gyda S4C roedd Siân Doyle yn gyn-Reolwr Gyfarwyddwr cwmni telegyfathrebu TalkTalk.
Cyn hynny roedd yn Gyfarwyddwr Manwerthu i gwmni EE, lle’r oedd yn gyfrifol am arwain tîm o dros 3,500 o weithwyr ar draws y Deyrnas Unedig.
Bu hefyd yn Uwch Is-Lywydd cwmni Comcast Cable yn Philadelphia yn yr UDA.
'Gofid mawr'
Ym mis Ebrill, cafodd llythyr ei anfon o gyfrif e-bost anhysbys yn honni bod staff oedd yn gweithio i S4C wedi cael eu hanwybyddu a'u tanseilio gan y tîm rheoli.
Roedd yn gopi o lythyr a gafodd ei ysgrifennu at aelodau annibynnol bwrdd unedol S4C gan swyddog negodi undeb Bectu.
Fe gyhoeddodd Cadeirydd awdurdod y sianel, Rhodri Williams, ar y prynhawn Mawrth canlynol y byddai cwmni cyfreithiol Capital Law yn arwain ymchwiliad annibynnol llawn i bryderon a chwynion gweithwyr.
Wrth gyhoeddi'r newyddion am y prif weithredwr ddydd Gwener, dywedodd yr Awdurdod fod yr aelodau wedi "ystyried y dystiolaeth a ddarparwyd fel rhan o'r ymarfer canfod ffeithiau a gynhaliwyd gan Capital Law i amgylchedd gwaith S4C.
"Dechreuwyd yr ymarfer yn dilyn pryderon difrifol a godwyd gyda ni gan BECTU ym mis Ebrill 2023.
"Mae'r dystiolaeth a welsom yn adlewyrchu barn a phrofiadau 96 o bobl sy'n staff presennol neu gyn-aelodau o staff S4C neu'n bartneriaid y mae'r sefydliad yn gweithio gyda nhw.
"Roedd natur a difrifoldeb y dystiolaeth a rannwyd yn peri gofid mawr. Yn ddi-os, mae wedi bod yn gyfnod heriol i lawer o unigolion. Fel Aelodau o'r Awdurdod, hoffem ymddiheuro am y straen a'r gofid a achosir gan yr ymddygiadau a brofwyd yn y gweithle."
Ychwanegodd datganiad yr Awdurdod ddydd Gwener: "Mae’n amlwg o’r dystiolaeth a dderbyniwyd bod angen cymryd camau i sicrhau newid o fewn S4C ac mae yna lawer i’w wneud i ddelio gyda’r holl faterion sy’n codi o’r wybodaeth a dderbyniwyd."
Nid yw manylion adroddiad Capital Law wedi ei ryddhau'n llawn hyd yma.
'Amhriodol'
Fis diwethaf fe wnaeth un arall o uwch-swyddogion S4C adael y sianel wedi honiadau iddi "ymddwyn yn amhriodol" mewn bariau yn Nantes yn ystod Cwpan Rygbi'r Byd.
Cafodd Llinos Griffin-Williams ei phenodi yn Brif Swyddog Cynnwys S4C ym mis Ebrill y llynedd. Cyn hynny hi oedd cyfarwyddwr cynnwys cwmni annibynnol Wildflame.
Mae Newyddion S4C yn deall i ymadawiad Ms Griffin-Williams ddilyn adroddiadau iddi wneud sylwadau anaddas i aelodau cwmni cynhyrchu annibynnol Whisper tra yn Nantes, neu Naoned.
'Anffodus'
Dywedodd cyn Brif Weithredwr S4C Arwel Ellis Owen: "Mae o'n anffodus a deud y lleia oherwydd dwi'n credu bod o yn bwydo canfyddiad sydd gan rhai bod y sianel yn methu â rheoli ei hun, sianel sydd yn mynd, mae'n fy nharo i, yn fwyfwy dibynnol ar pwrs y wlad."
Dywedodd cyn-weinidog treftadaeth Cymru Alun Ffred Jones: "Mae'n amlwg bod 'na rywbeth mawr wedi mynd o'i le. Beth bynnag ydi'r rhesyme, mae 'na gyfrifoldeb ar yr Awdurdod ei hun i esbonio ei weithrediadau."
'Ymgysylltu'
Dywedodd llefarydd ar ran Adran Ddiwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon Llywodraeth y DU, sy'n penderfynu ar drefiant ariannu S4C, ei fod yn "fater i S4C, sy'n annibynnol o'r llywodraeth".
"Er na allwn wneud sylwadau ar achosion unigol, rydym yn ymgysylltu’n rheolaidd ag S4C ar amrywiaeth o faterion, gan gynnwys llywodraethu," meddai llefarydd.
"Mae'n ofynnol i bob aelod o fwrdd S4C, gan gynnwys y Cadeirydd, gydymffurfio â'r Cod Ymddygiad ar gyfer aelodau Byrddau Cyrff Cyhoeddus a saith egwyddor Bywyd Cyhoeddus."