Newyddion S4C

Athro sydd yn aelod o fand Bwncath wedi ei gyhuddo o gyfathrebu'n rhywiol â phlentyn

21/11/2023

Athro sydd yn aelod o fand Bwncath wedi ei gyhuddo o gyfathrebu'n rhywiol â phlentyn

Mae athro sy'n aelod o fand Bwncath wedi ei gyhuddo o gyfathrebu'n rhywiol â phlentyn.

Fe ymddangosodd Alun Jones Williams, 26 oed, o ardal Y Ffôr, Pwllheli o flaen Llys Ynadon Caernarfon ddydd Mawrth.

Plediodd yn ddieuog i'r cyhuddiad yn ei erbyn a bydd yn ymddangos o flaen Llys y Goron ar 2 Ionawr.

Cafodd ei ryddhau ar fechnïaeth.

Dywedodd Cyngor Gwynedd ei fod wedi ei atal o'i waith a bod "holl weithdrefnau diogelu plant perthnasol yn cael eu dilyn".

Mewn ymateb i'r newyddion, dywedodd band Bwncath: "Daethom yn ymwybodol o sefyllfa ddifrifol sy'n ymwneud ag aelod o'r band dros y penwythnos. 

"Gweithredwyd y camau priodol yn syth a phenderfynwyd na fydd yr aelod dan sylw yn cymryd rhan mewn unrhyw un o berfformiadau'r band yn y dyfodol."

Dywedodd Heddlu'r Gogledd eu bod nhw’n annog aelodau o’r cyhoedd i beidio â dyfalu ar-lein.

"Rydym yn ymwybodol o negeseuon yn cael eu rhannu ar gyfryngau cymdeithasol," meddai'r llu.

"Mae hwn yn ymchwiliad sy'n mynd rhagddo ar hyn o bryd felly rydym yn annog y cyhoedd i beidio â dyfalu ar-lein na rhannu unrhyw negeseuon ymhellach gan y gallai hyn beryglu ein hymchwiliad."

Maen nhw’n galw ar unrhyw un allai eu helpu gyda’u hymchwiliadau i wneud hynny ar eu gwefan neu ffonio 101, gan ddyfynnu y cyfeirnod A183906.

Daeth cadarnhad ddydd Llun bod yr heddlu yn ymateb i honiadau am athro ysgol yng Ngwynedd. 

'Atal o'i waith'

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: “Rydym wedi cael ein hysbysu fod aelod o staff ysgol yng Ngwynedd wedi ei arestio a’i gyhuddo gan Heddlu Gogledd Cymru. 

“Yn unol â gweithdrefnau cyflogaeth yr ysgol, mae’r unigolyn wedi ei atal o’i waith hyd nes bydd yr holl ymchwiliadau wedi eu cwblhau. Gallwn gadarnhau fod yr holl weithdrefnau diogelu plant perthnasol yn cael eu dilyn.

“Ni fydd y Cyngor yn gwneud sylw pellach tra bo’r prosesau yma yn weithredol a rydym yn ategu galwad yr Heddlu i beidio rhannu negeseuon na gwneud unrhyw sylwadau pellach ar-lein.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.