Newyddion S4C

Cynnal ymgynghoriad ar newid calendr yr ysgol yng Nghymru

21/11/2023
Arholiad TGAU

Bydd ymgynghoriad yn dechrau ddydd Mawrth ar newid calendr yr ysgol yng Nghymru. 

Yn ôl Llywodraeth Cymru, bwriad hyn fyddai er mwyn sicrhau bod gwyliau yn cael eu rhannu yn fwy cyson, gyda phythefnos, yn hytrach nag wythnos, o wyliau hanner tymor yn yr hydref.

Mae tymor yr hydref yn hirach na'r tymhorau eraill yn y calendr presennol, gyda gwaith ymchwil yn awgrymu ei fod yn dymor 'blinedig a heriol i ddysgwyr a staff'.

Byddai'r newidiadau yn cael eu gwneud o fis Medi 2025, gan olygu y byddai ysgolion yn cael pythefnos o wyliau ym mis Hydref 2025 a phum wythnos o wyliau haf yn 2026. 

Dywed y llywodraeth na fyddai nifer y dyddiau o wyliau ysgol na'r rhai addysgu yn newid, gyda 13 wythnos o wyliau yn parhau ond bod 'ambell wythnos yn cael ei symud'.

Maent yn dweud hefyd bod athrawon yn teimlo bod yn rhaid neilltuo amser yn ystod tymor yr hydref i fynd dros bethau yn sgil y ffaith fod gwyliau'r haf mor hir.

Byddai'r cynnig newydd yn golygu y byddai wythnos yn cael ei chymryd o ddechrau gwyliau'r haf ac yn cael ei hychwanegu at wyliau mis Hydref. 

Byddai hyn, yn ôl y llywodraeth, er mwyn sicrhau bod staff a dysgwyr 'yn cael mwy o amser i orffwys yn ystod tymor hir yr hydref.'

Bwriad yr ymgynghoriad hefyd ydi ystyried newidiadau ychwanegol ar gyfer y dyfodol hir-dymor, gan gynnwys yr opsiwn o symud ail wythnos o wyliau'r haf a'i ychwanegu at wyliau'r Sulgwyn. 

Yn yr achos hwn, byddai diwrnodau canlyniadau TGAU a Safon Uwch yn gallu cael eu cynnal ar yr un diwrnod. 

'Amser maith yn ôl'

Dywedodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg Jeremy Miles: "Gall y gwyliau haf hir fod yn straen go iawn. Mae teuluoedd yn ei chael hi'n anodd dod o hyd i ofal plant dros y chwe wythnos, ac mae eraill yn cael trafferth gyda'r costau ychwanegol a ddaw yn sgil yr hafau hir. 

"Rydyn ni hefyd yn gwybod mai ein dysgwyr mwyaf difreintiedig sy'n mynd ar ei hôl hi fwyaf gyda'r dysgu yn sgil haf hir.

"Mae digon o enghreifftiau o awdurdodau lleol ledled y DU yn newid eu calendr ysgol i weddu anghenion lleol."

Mae'r ymgynghoriad yn rhan o'r Cytundeb Cydweithio gyda Phlaid Cymru a dywedodd yr Aelod Dynod Siân Gwenllian: "Cafodd calendr presennol yr ysgol ei ddylunio amser maith yn ôl, dan amgylchiadau gwahanol iawn. Rydyn ni'n awgrymu newidiadau a allai weithio'n well i bawb, ond yn bwysicaf oll i ddisgyblion o bob oed.

"Mae llawer o blant a phobl ifanc, yn enwedig y rhai ag anghenion dysgu ychwanegol a'r rhai o deuluoedd ar incwm is yn gweld y gwyliau'n hir iawn, gan effeithio'n negyddol ar eu lles a'u haddysg."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.