Gwario £8,000 mewn un dref ar lanhau coelcerthi heb ganiatâd ar ôl noson tân gwyllt
Mae cyngor wedi gwario miloedd mewn un dref yn glanhau llanast ar ôl coelcerthi heb ganiatâd ar noson tân gwyllt.
Dywedodd Cyngor Bro Morgannwg eu bod nhw wedi cynnal y gwaith glanhau ar ôl darganfod bod tair coelcerth wedi eu tanio gan ddefnyddio gwastraff tai a deunyddiau eraill yn y Barri.
Cafodd pentyrrau o sbwriel ac olion tân eu gadael ar lawr ger Burns Crescent, Cadoc Crescent a Caldy Close yn y dref.
Dywedodd y cyngor ei fod wedi costio tua £8,000 iddyn nhw lanhau'r llanast.
Dywedodd y Cynghorydd Mark Wilson, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdogaeth ac Adeiladau Cyngor Bro Morgannwg fod y gwaith glanhau “gynddrwg ag oedd unrhyw un yn gallu ei gofio”.
“Mae rhoi deunydd amrywiol fel hyn ar dân yn beryglus ac yn ddrwg i’r amgylchedd,” meddai.
“Mae’r mwg sy’n cael ei ollwng yn achosi llygredd, tra bod y tir wedi dioddef difrod hirdymor, os nad parhaol.
“Mae cael gwared â'r llanast hefyd yn costio lot i drethdalwyr y cyngor.
“Ar adeg pan fo cyllidebau cynghorau dan fwy o bwysau nag erioed o’r blaen, dydyn ni ddim yn croesawu'r gost ychwanegol yma o gwbl.”
‘Cwbl annerbyniol’
Dywedodd Cyngor Bro Morgannwg eu bod nhw wedi cysylltu â Gwasanaethau Tân ac Achub De Cymru i drafod sut i atal rhagor o goelcerthi heb eu rheoli yn y dyfodol.
Ychwanegodd y Cynghorydd Wilson: “Dy'n ni ddim yn ceisio atal unrhyw un rhag mwynhau tân gwyllt ar Noson Guto Ffowc.
“Roedd digon o arddangosfeydd wedi’u trefnu’n ofalus o amgylch y Fro lle'r oedd modd gwneud hyn yn ddiogel.
“Ond mae cynnau tanau fel y gwelsom yn ddiweddar yn gwbl annerbyniol ac mae angen i’r rhai sy’n gyfrifol sylweddoli hyn.”