Y Canghellor yn ystyried torri rhai trethi 'mewn ffordd gyfrifol'
Mae Canghellor y DU Jeremy Hunt wedi awgrymu ei fod yn ystyried torri rhai trethi yn Natganiad yr Hydref ddydd Mercher.
Mewn cyfres o gyfweliadau ddydd Sul dywedodd Mr Hunt taw ffyniant economaidd yw ei flaenoriaeth.
Mae Mr Hunt yn y broses o gwblhau ei ddatganiad ar gyfer dydd Mercher, fydd yn amlinellu ei gynlluniau gwario.
Mae’n hysbys ei fod yn ystyried torri trethi ar incwm, etifeddiaeth a chyfraddau busnes.
Dywedodd Mr Hunt fore dydd Sul y bydd ei araith ddydd Mercher yn canolbwyntio ar rwystrau i dyfiant.
Ychwanegodd ei fod am “osod y wlad ar lwybr i drethi îs" ond fyddai yn gwneud “dim ond mewn ffordd gyfrifol fydd ddim yn aberthu cynnydd ar chwyddiant”.
Mae trethi yn y DU ar eu lefel uchaf ers 70 mlynedd ac yn annhebygol o ostwng yn fuan yn ôl y Sefydliad Astudiaethau Cyllidol.
Ychwanegodd Mr Hunt ei fod yn “arwyddocaol fod chwyddiant wedi haneri yn unol ag ymrwymiad y Prif Weinidog.”
Dywedodd y canghellor cysgodol dros y blaid Lafur Rachel Reeves: “Mae torri trethi etifeddiaeth i weld yn ffordd anarferol o ddelio gyda’r anghydfod costau byw.”
Fe ychwanegodd: “Ar y llaw arall nid wyf yn ymddiheuro am fod eisiau trethi ar bobl sy’n gweithio i fod yn llai.”