Newyddion S4C

Mwy na thraean o fenywod wedi eu haflonyddu yn rhywiol ar drenau yn ôl adroddiad

18/11/2023
streic trenau

Mae mwy na thraean o fenywod ym Mhrydain sy’n teithio ar drenau yn debygol o ddioddef ymosodiad, yn ôl astudiaeth newydd gan Heddlu Trafnidiaeth Prydain.

Mae’r ymchwil yn nodi hefyd bod y rhan fwyaf o’r ymosodiadau yn digwydd yn ystod y cyfnodau prysur ar ddiwedd y dydd pan mae trenau yn llawn a phrysur.

Mae menywod yn dioddef mwy o ymddygiad annymunol nag erioed gyda 51% o fenywod yn dweud nad oedd teithwyr eraill wedi ymyrryd i helpu, yn ôl yr ymchwil. .

Yn ôl yr adroddiadd,  dim ond un mewn pump o bobl sydd wedi gweld digwyddiadau o aflonyddu rhywiol sy’n cysylltu â’r heddlu.

Mae Heddlu Trafnidiaeth Prydain yn galw ar y gymuned yn ehangach i gymryd sylw a chefnogi eraill wrth deithio ar drenau neu systemau tanddaearol er mwyn i’r heddlu ddelio gyda’r drwgweithredwyr.

Dywedodd prif weithredwr y grŵp Darparu Rheilffyrdd Jacqueline Starr bod y “diwydiant yn gweithio’n galed gyda Heddlu Trafnidiaeth Prydain i ddiddymu aflonyddu rhywiol ar drenau.”

Mae Heddlu Trafnidiaeth Prydain wedi dechrau ymgyrch newydd er mwyn addysgu teithwyr ar sut i adnabod digwyddiadau o aflonyddu rhywiol a sut i adrodd amdanyn nhw.

Mae gan yr heddlu hefyd dimau o swyddogion cudd sy’n teithio ar y trenau i geisio atal a dal drwgweithredwyr.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.