Cefnogwyr Cymru wedi eu harestio yn Armenia
Cefnogwyr Cymru wedi eu harestio yn Armenia
Cafodd rhai o gefnogwyr pêl-droed Cymru eu cludo i orsaf yr heddlu yn Yerevan, prifddinas Armenia nos Wener.
Mae Cymru yn herio Armenia yn rowndiau rhagbrofol Euro 2024 brynhawn Sadwrn, gyda thua 1,200 o gefnogwyr y Wal Goch yn y ddinas.
Cafodd dros 30 eu harestio a'u cludo i'r ddalfa.
Yn ôl yr heddlu o Gymru, does neb wedi ei gyhuddo ac ni fu unrhyw weithredu yn erbyn y rhai a gafodd eu harestio.
"Anghyffredin"
Dywedodd yr Uwcharolygydd Steve Rees o Heddlu De Cymru sy'n arwain yr ymgyrch blismona ar ran Cymru yn Armenia: “Rydym yn ymwybodol o ddigwyddiad yn ystod oriau mân fore Sadwrn yn Yeravan a arweiniodd at 32 o gefnogwyr Cymru yn cael eu harestio.
“Rydym yn gweithio gyda llysgenhadaeth y cefnogwyr a'r rhai sy'n gweithredu'r gyfraith yn lleol er mwyn darganfod beth yn union ddigwyddodd.
“Mae gan gefnogwyr Cymru enw da pan yn teithio dramor, felly mae hon yn sefyllfa anghyffredin
“Bydd dirprwyaeth ar ran heddluoedd Cymru yn parhau i fod yn weladwy i gefnogwyr yn ystod y gêm hon oddi cartref, yn darparu cyngor, a'u helpu er mwyn eu cadw'n ddiogel.”
"Sioc"
Roedd Lefi Gruffudd ymhlith y cefnogwyr a gafodd eu harestio, ac mae e bellach wedi ei ryddhau.
“Roedd y 3 ohonom ni’n cerdded nol tuag at y gwesty neithiwr yn eitha hwyr a mi wnaeth ceir heddlu ddod syth lan atom ni cymryd ni fewn i’r ceir, arestio ni, cadw ni yn y ddalfa tan 3:30 prynhawn ma,” meddai.
“Trin ni’n sarhaus, dim dŵr,dim cell, dim byd trwy’r nos, dim esboniad pam ein bod wedi cael ein harestio a dy' ni 'di bod 'ma trwy'r amser yn gofyn cwestiynau ond dim atebion ac o ni 'na nes 3:30 y prynhawn, heb gysgu dim a da ni’n flin
“Mae’n sioc, do ni ddim yn disgwyl hyn, o ni’n lico’r lle, yn hapus iawn gyda’r bobl yn y bariau neithiwr roedd 'na awyrgylch dda iawn, ond roedd hyn yn sioc fawr i ni gyd, oedd na sawl criw gwahanol a ma nhw dal heb ddod allan nawr fel dw i’n siarad”
“Hanner awr yn ôl am 3 o’r gloch ges i wybod bo nhw’n honni bod na ymladdfa rhwng cefnogwyr Cymru ond o ni’n gwybod dim am hynny yn amlwg, a dw i’n amheus os wnaeth hynny ddigwydd ond dyna’r reswm roion nhw."
Dywedodd grŵp FSA Cymru sydd yno i gynorthwyo cefnogwyr y Wal Goch: “Rydym yn ymwybodol o ddigwyddiadau ger bariau yn y ddinas. Cafodd o leiaf dri o gefnogwyr eu rhyddhau ac rydym yn aros am newyddion am dri arall – swnio fel eu bod nhw’n rhy swnllyd ar gyfer yr amser hynny yn y bore ac fe wnaeth yr heddlu lleol ymyrryd."
Dywedodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru eu bod yn "ymwybodol o'r sefyllfa a'u bod mewn trafodaethau cyson â'r heddlu sydd wedi teithio yno o Gymru ac FSA Cymru.
"FSA Cymru yw grŵp llysgenhadaeth y cefnogwyr sydd mewn cyswllt â'r awdurdodau lleol, yn ogystal â Heddlu De Cymru, sydd yma i gydlynu â'r awdurdodau cyfreithiol yn lleol. Mae'r Swyddfa Dramor wedi cael gwybod".
Ar gyfryngau cymdeithasol, dywedodd newyddiadurwr ITV Cymru Siôn Jenkins sydd wedi teithio i Yerevan fod nifer o’i ffrindiau wedi cael eu "harestio".
Dywedodd ar y cyfryngau cymdeithasol: “Sefyllfa fy ffrindie yma yn Yerevan. Ma’ nhw dal yn yr orsaf heddlu. Wedi llwyddo i siarad â nhw. Profiad erchyll sy’ ‘di ysgwyd ni i gyd."
Dywedodd un cefnogwr ar y cyfryngau cymdeithasol ei fod e ac wyth o’i ffrindiau wedi eu cadw yng ngorsaf yr heddlu am dros saith awr heb ddŵr. Dywedodd: “Profiad arswydus a thrawmatig."
Mae'r Swyddfa Dramor a'r heddlu yn Armenia wedi cael cais am ymateb.