
Eryr aur wedi ei weld yng Nghaerdydd
Cafodd Eryr aur wedi ei weld yn annisgwyl mewn gardd yng Nghaerdydd.
Fe wnaeth cwpwl o Laneirwg weld yr aderyn prin yn eistedd ar ffens yn eu gardd.
Dywedodd y cwpwl, sydd ddim am gael eu henwi, eu bod wedi eu "syfrdanu" i weld yr aderyn yno yn ddiweddar.
Fe dreuliodd yr aderyn tua thair awr yno cyn i’r RSPCA ddod i’w achub.
Mae’r eryr aur wedi ei warchod yng Nghymru o dan y ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefngwlad.
Mae’n drosedd i gymryd eryr aur ac wyau â chywion o’r gwyllt yn fwriadol.
Mae’n gyfreithlon i gadw eryrod aur sydd wedi eu bridio yn gaeth ond mae’n rhaid iddyn nhw gael eu cofrestru a naill ai gyda chylch adnabod ar goes neu fod ganddyn nhw ficrosglodyn.
Dywedodd y RSPCA fod gan yr aderyn gylch am ei goes a bod y perchennog wedi cysylltu â nhw.
