Newyddion S4C

Arestio tri dyn ar ôl canfod ffatri canabis 'ar raddfa ddiwydiannol' ym Mhontypridd

17/11/2023
Ffatri Canabis

Mae tri dyn wedi cael eu harestio ar ôl i’r heddlu ddod o hyd i ffatri ganabis oedd yn cynhyrchu gwerth hyd at £690,000 o’r cyffuriau. 

Cafodd y ffatri oedd yn cynnwys oddeutu 650 o blanhigion canabis eu canfod gan swyddogion uned troseddau Heddlu De Cymru, mewn adeilad ar Stad Ddiwydiannol Trefforest. 

Daeth y llu o hyd i’r ffatri gan ddefnyddio drôn gwres a wnaeth awgrymu yr oedd canabis yn cael eu cynhyrchu yno “ar raddfa fawr.”

Fe gafodd tri dyn eu harestio ar ôl iddyn nhw geisio dianc rhag swyddogion yr heddlu, gan redeg i do yr adeilad.

Cafodd y tri eu cyhuddo o gynhyrchu canabis ac maen nhw bellach wedi’u cadw gan y llys tan fod achos llys.

Dywedodd yr heddwas Lia Jones: “Dyma oedd achos arall o ganfod fferm ganabis maint diwydiannol gyda chyfanswm o 650 o blanhigion, gwerth rhwng £230,000 - £690,000 ar y stryd. 

“Hoffwn ddiolch i ddau aelod o’r cyhoedd a wnaeth helpu swyddogion i atal tri dyn rhag dianc o’r lleoliad,” meddai. 

Mae’r llu yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth ynglŷn â chyffuriau yn cael eu cynhyrchu yn eu hardal leol nhw i gysylltu ar unwaith.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.