Newyddion S4C

'Fyddai'n ddiolchgar am weddill fy oes': Syr James Dyson yn rhoi £35 miliwn i'w hen ysgol

18/11/2023
Syr James Dyson

Mae’r biliwnydd Syr James Dyson wedi rhoi £35 miliwn i’w hen ysgol a ganiataodd iddo barhau â'i astudiaethau yno yn rhad ac am ddim ar ôl marwolaeth ei dad.

Roedd Syr James Dyson yn ddisgybl yn ysgol breifat Gresham yn Holt, Norfolk, lle fuodd ei dad yn athro’r clasuron. 

Ond bu farw ei dad Alec Dyson o ganser yn 1956, pan roedd yr arloeswr yn fachgen naw oed.

Bellach yn 76 oed, mae Syr Dyson wedi rhoi’r swm sylweddol i’w hen ysgol er mwyn diolch am ei alluogi e a’i frawd i barhau â’u haddysg yno am ddim. 

Wrth ddiolch, dywedodd Syr James: “Fyddai’n ddiolchgar am weddill fy oes am yr haelioni a ddangosodd Gresham i mi pan fu farw fy nhad, a oedd yn bennaeth y Clasuron yn yr ysgol. 

“Fe wnaeth Logie Bruce-Lockhart, y prifathro ar y pryd, ganiatáu i fi a fy mrawd barhau gyda'n haddysg trwy fwrsari – fel arall fyddai’n amhosib. 

“Dwi’n mor falch i gefnogi’r ysgol ac i’w gweld yn helpu’r genhedlaeth nesaf,” meddai. 

Bydd rhoddion Syr Dyson yn ariannu’r gwaith o adeiladu adeilad Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, Celf a Mathemateg newydd er lles disgyblion rhwng saith ac 13 oed yr ysgol. 

Image
Ysgol Gresham
Bydd rhoddion Syr Dyson yn ariannu’r gwaith o adeiladu adeilad Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, Celf a Mathemateg newydd

Dywedodd Douglas Robb, sef prifathro ysgol Gresham: “Rydym yn hynod o ddiolchgar am roddion Syr James Dyson a Sefydliad James Dyson,” meddai. 

Mae Syr James Dyson bellach yn ffigwr byd-enwog wedi iddo ddyfeisio’r sugnwr llwch cyntaf heb fagiau. Cafodd ei deulu eu rhestru fel y pumed mwyaf cyfoethog yn y DU, yn y Sunday Times, gyda ffortiwn o hyd at £23 biliwn.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.