Swyddfa Jo Stevens wedi'i fandaleiddio gan brotestwyr yng Nghaerdydd
Mae difrod wedi ei wneud i swyddfa Aelod Seneddol Llafur yng Nghaerdydd gan brotestwyr oedd yn gwrthwynebu ei phenderfynid i atal ei phleidlais yn San Steffan dros gadoediad yn Gaza.
Yn ystod protest nos Iau fe gafodd swyddfa Jo Stevens ei pheintio gyda phaent coch ac fe osodwyd posteri oedd yn cynnwys sloganau oedd yn dweud ei bod o blaid lladd plant yn Gaza.
Roedd nifer wedi ymgasglu tu allan i’w swyddfa yn ardal Y Rath i gynnal protest o blaid y Palesteiniaid, ar ôi i wylnos gael ei chynnal yn gynharach ar y noson.
Yn San Steffan yn gynharach yn yr wythnos, pleidleisiodd Ms Stevens, ynghyd â phob un ond un AS Llafur o Gymru, yn erbyn gwelliant SNP yn galw am gadoediad yn y Dwyrain Canol, gan gefnogi galwad Llafur am “seibiau dyngarol” yn lle hynny.
Mae arweinyddiaeth y blaid yn dadlau na fyddai cadoediad yn datrys yr argyfwng ac na allai ddigwydd tra bod Hamas yn dal i ddal gwystlon o Israel yn Gaza.
Dywedodd Llafur hefyd fod gan Israel yr hawl i amddiffyn ei hun yn dilyn yr ymosodiad terfysgol gan Hamas ar 7 Hydref.
Mae ymgyrchwyr sydd yn gawl am gadoediad yn cyhuddo Israel o dorri cyfraith ryngwladol ac yn dweud bod yn rhaid rhoi diwedd ar drais ar unwaith.
Yr wythnos diwethaf, yn Senedd Cymru, cefnogodd 11 aelod Llafur gynnig Plaid Cymru yn galw am gadoediad.
Fe wnaeth gweinidogion Llywodraeth Lafur Cymru ymatal ond fe wnaeth y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan, gymryd safiad gwahanol i’r Prif Weinidog yn gyhoeddus.
'Trosedd'
Mae sawl gorymdaith a gwylnos wedi eu cynnal y tu allan i’r Senedd ac o flaen swyddfa Ms Stevens.
Wrth ymateb i’r fandaliaeth dywedodd Ms Stevens ei fod “yn mynd ymhell y tu hwnt” i’r hawl i brotestio.
Wrth siarad â BBC Radio Wales, dywedodd Ms Stevens: ““Rwy’n cefnogi’n ddiamwys yr hawl i brotestio. Ond mae hyn yn mynd ymhell y tu hwnt i hynny. Difrod troseddol yw hwn.
“Mae hwn yn weithle a dylai fy staff a minnau, yn ogystal â’m hetholwyr sy’n dod i’m swyddfa bob dydd am gymorth, allu gwneud hynny’n ddiogel.”
Mae Heddlu De Cymru wedi dweud eu bod nhw’n ymchwilio i ddifrod troseddol i eiddo ar Heol Albany.