Malcs a'i Farn: 'Rhaid canolbwyntio ar un gêm'
Malcs a'i Farn: 'Rhaid canolbwyntio ar un gêm'
Bydd tîm pêl-droed Cymru yn gobeithio am fuddugoliaeth mewn gêm dyngedfennol yn erbyn Armenia ddydd Sadwrn i gyrraedd cystadleuaeth Euro 2024 yn yr Almaen.
O'r newidiadau yn y tîm i'r canlyniad ar ddiwedd y gêm - dyma farn Malcolm Allen ar gyfer ei golofn, Malcs a'i Farn.
"Mae’n anodd iawn i ni beidio rhedeg cyn cerdded yn fy mhen i ar y funud yn edrych ymlaen at y gemau yn erbyn Armenia ac yn erbyn Twrci.
"Am gêm enfawr gyda Cymru yn erbyn Armenia y penwythnos yma. Canolbwyntio a ffocws ‘mond ar y gêm hon i ddechra wedyn neith bob dim arall syrthio i le. Ma’n rhaid ni gal perfformiad fel gaethon ni yn erbyn Croatia mis diwetha. Awch, yr angerdd yna, yr agwedd penderfynol i guro pob pêl a bod yn eu gwynebau nhw. A cal Armenia ar eu pen eu gliniau.
"Rhaid canolbwyntio ar un gêm – anodd gwneud dwi’n dallt. Armenia 'di hwn wrth gwrs. Ma nhwn dweud da chi ddim ond mor dda a’r gêm nesaf a’r gêm nesaf ydy’r un fawr ma sy’n mynd i baratoi ac adeiladu bob dim am nos Fawrth nesaf yn Stadiwm Caerdydd yn erbyn Twrci.
"Ydyn ni mynd i fod yn well tîm tro ma na pan gollon ni ym mis Mehefin i Armenia o bediar gol i ddwy?
"Da ni’n gwybod fydd Aaron Ramsey ddim yna. Nath o chwarae yn y gêm. Dwi ddim yn gweld Brennan Johnson yn cychwyn. Dwi ddim yn gweld Dan James yn cychwyn.
"Pam? Wel rhesymau fi ydy y gêm yn erbyn Croatia – naethon ni osod safon. Y gêm gore gan Gymru ers blynyddoedd maith. Ers y gêm Gwlad Belg yn yr Euro 2016."
Partneriaeth
"Ma meddylfryd yr hen bennau wrth gwrs mor mor bwysig i helpu datblygu. A dyna dwi’n meddwl ers 2016 ydy’r meddylfryd shifft ma, yn y pen. Da ni’n disgwyl cystadlu wan, yn yr Euros ac hefyd qualifio i Cwpan y Byd fel nethon ni yn ddiweddar. Dyna di’r peth bwysig rhaid i’r chwaraewyr hyn yn y stafell newid gael drosodd i’r chwaraewyr ifanc.
"Nes i deimlo yn erbyn Croatia, da ni nôl ar y ffordd cywir. Dy ni’n datblygu. Gynno ni chwaraewyr ifanc sy'n llawn potensial dal i fod. 'Dy ni'n edrych ar chwaraewyr fel Jordan James, Ethan Ampadu yn canol y cae. Ma 'na bartneriaeth yna rwan – da ni ddim 'di gal hwnna ers Joe Ledley a Joe Allen yn fy marn i.
"Rwan gyno ni ddau sy’n gweddu'i gilydd – un sy’n medru rhoi ei dacl i fewn a ma fe mynd i ddefnyddio’r bêl 'na. Ond mae hefyd yn gwybod ei swydd i warchod yna.
"Ethan Ampathdu ar ben ei gêm ar y funud. Am ddylanwad mawr mae o’n cael ar y tîm. Mae o’n arwr mawr yn y tîm yn Leeds United.
"Dwi'n edrych ar Dan James a Joe Rodon yn y pencampwriaeth – ma nhw’n chwarae yn gyson. Dyna di’r peth pwysig bob gêm ar lefel uchel. Mae’n cynghrair anodd iawn ond , nhw ar garlam.
"Yr ansawdd sydd gynno ni yn y tîm – Kieffer Moore, gynno ni David Brooks, gynno ni Ethan Amphadu ganol cae Jordon James. Ma gynno ni chwaraewyr sy mynd i ennill y gêm i ni wedyn. Y peth pwysig yw ein bod ni’n ennill y gêm.
Momentwm
"Dyna di’r gair – momentwm. Dyna ma' Cymru 'di cal ers y gemau cyfeillgar. Oedden ni ddim eisiau’r brec ma mis diwethaf. Dy ni'n barod. Dy ni'n gwybod dyw Aaron Ramsey ddim yna ond fydd o o gwmpas, fydd ei ysbryd o yna yn yr ystafell newid.
"Ydyn ni mynd i fod yn well yn erbyn Armenia y tro hwn?
"Dwi ddim eisiau newid y dynamics. Odd pawb yn gwybod y cynllun y tactics ac roedd na balans yn y tîm. David Brooks ar y dde, fydd Harry Wilson yn cael ei rôl rhydd fel nath o a Kieffer Moore yn arwain llinell flaen.
"Tîm sy'n barod eto. Yr awyrgylch o gwmpas y lle. Ma nhw’n barod. Does na ddim gêm dyw Page ei hun ddim wedi paratoi at. Fel ddywedodd o wrtha i mewn brawddeg ‘Hey Mal, we’ve been ready for a month’.
"Rwan 'da ni mynd i dorchi llewys, da ni mynd i ennill yr hawl.
"Fedra chi ddim prynu profiad. Gynnon ni’r profiad yna yn yr ystafell newid.
"Brennan Johnson yn anlwcus i beidio bod yn rhan o’r tîm. Mae e wedi bod ar dan i Spurs. Da chi'n edrych ar Dan James, dydy e erioed wedi gadael ni lawr. Ma rhaid ni edrych dipyn bach, ma na ddwy gêm mewn pedwar diwrnod fan hyn felly ma isie gwarchod rhai dipyn bach.
"Ma isie curo Armenia o fewn yr awr felly gallu dod â un neu ddau o chwaraewyr oddi wrth y cae.
"Ond yn sicr, mae’n iach i Rob Page – y chwaraewyr i gyd ar gael iddo fe y tro yma. Pawb yn brathu isie bod yn y tîm, yr 11 yn cychwyn.
"Dwi'n gweld o’n mynd ac yn ffyddlon efo’r tîm nath guro Croatia. Oherwydd y ffordd oedden nhw efo’i gilydd. Pellter rhwng yr amddiffyn, y canol cae a’r ymosodwyr. Oedden ni’n berffaith. Pawb yn 9 allan o 10, un neu ddau yn 10 allan o 10.
"Dwi’n orhyderus. Dwi’n fwy ffyddiog na dwi erioed 'di bod. Canlyniad – Armenia 0 – Cymru dwy, nac’ di’ tair.
"Fydd hwnna yn arwain yn neis – ac am noson gofiadwy eto fydd gynnon ni yn Gaerdydd nos Fawrth nesa, adre i Twrci."
Bydd Cymru v Armenia yn cael ei darlledu yn fyw ar S4C am 14:00 ddydd Sadwrn.