Galw am 'adolygiad llawn' i sefyllfa canolfan Plas Menai ger y Felinheli
Mae'r Aelod o Senedd Cymru dros Arfon wedi galw am adolygiad llawn i'r sefyllfa yng nghanolfan awyr agored Plas Menai ger y Felinheli yng Ngwynedd.
Wrth siarad yn y Senedd ddydd Iau fe wnaeth Sian Gwenllïan, AS Plaid Cymru dros Arfon alw ar Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth Cymru i gynnal adolygiad llawn i'r sefyllfa “cyn i fwy o broblemau ddod i’r wyneb”.
Daw yr alwad wedi i gwmni gwersi nofio lleol, Nofio Menai gael gwybod na fydd pwll nofio Plas Menai ar gael iddyn nhw o Ionawr nesaf ymlaen meddai'r AS.
Dywedodd Sian Gwenllian: “Mae Nofio Menai yn dweud nad oes yna bwll nofio arall ar gael iddyn nhw yn lleol, a dwi’n gwybod bod yna restrau aros ar gyfer gwersi nofio yn y canolfannau hamdden yn lleol, felly plant fydd ar eu colled oherwydd hyn.
“Bydd ‘na leihad hefyd yn y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg sydd yn bwysig iawn yn yr ardal ac mi fydd yna gysylltiad hir rhwng y ganolfan a'r gymuned leol yn dod i ben a hynny yn ddisymwth a heb eglurhad.”
Pryderon
Yn dilyn adolygiad o safle Canolfan Awyr Agored Genedlaethol Cymru yn 2017, penderfynodd Chwaraeon Cymru chwilio ar gyfer "partner strategol" er mwyn diogelu ei dyfodol.
Ym mis Medi y llynedd, fe wnaeth Chwaraeon Cymru gyhoeddi eu bwriad i gweithio gyda chwmni Legacy Leisure, partner Parkwood Leisure, o fis Ionawr 2023 ymlaen.
Inline Tweet: https://twitter.com/siangwenfelin/status/1725244780622344530
Fe wnaeth Legacy Leisure gymryd cyfrifoldeb dros weithredu'r ganolfan o ddydd i ddydd am y 10 mlynedd nesaf.
Chwaraeon Cymru sydd yn parhau i berchen ar y tir a'r adeiladau ar y safle.
Fe wnaeth Sian Gwenllïan hefyd godi pryderon yn lleol ers i Legacy Leasure gymryd drosodd.
“Mae rhain yn bryderon dilys am amodau gwaith a datblygiadau eraill ym Mhlas Menai,” meddai.
'Dyfodol'
Mewn ymateb dywedodd Cyfarwyddwr Chwaraeon Cymru Graham Williams: “Fe wnaethon ni benodi Parkwood/Legacy Leisure yn bartner er mwyn cynnal Canolfan Awyr Agored Genedlaethol Plas Menai oherwydd roeddwn ni eisiau sicrhau dyfodol y ganolfan, gan hefyd adeiladu ar ein llwyddiannau a gafwyd yno yn ystod y 40 mlynedd diwethaf.
“Mae’r bartneriaeth eisoes wedi arwain at ehangu’r gwersi nofio sy’n cael eu cynnal gan y ganolfan. Mae’r gwersi rheiny wedi ennill archrediad gan Nofio Cymru, gan roi hyder i rieni eu bod yn rhoi'r cyfleoedd gorau posib i'w plant i ddatblygu sgil bywyd hanfodol.
“Ers dechrau’r flwyddyn, mae niferoedd y plant sydd wedi mwynhau’r gwersi nofio gan Plas Menai wedi dyblu o 100, i dros 230.
"Er mwyn ateb y galw ynglŷn ag amseroedd agor y pwll at y dyfodol, roedd y ganolfan wedi rhoi rhybudd o dri mis i Ysgol Nofio Menai i'w hysbysu yn anffodus, na fydd eu slot bellach ar gael o fis Ionawr a bydd rhaid iddyn nhw ddod o hyd i bwll arall.
“Rydym yn cynghori rhieni bod gwersi nofio yn parhau i gael eu cynnig yn y Gymraeg a’r Saesneg yng Nghanolfan Genedlaethol Plas Menai a bod lleoedd ar gael.
“Rydym yn edrych ymlaen at weld sut y byddai’r bartneriaeth rhwng Parkwood/Legacy Leisure yn parhau i ddatblygu, gan gynnig cyfleoedd cyffrous i’r gymuned leol a thu hwnt.”
Mae Newyddion S4C wedi gofyn wrth Legacy Leisure am ymateb.