Cyhuddo dau fachgen 12 oed o lofruddio dyn 19 oed
Mae dau fachgen 12 oed wedi’u cyhuddo o lofruddio dyn 19 oed yn Wolverhampton ddydd Llun.
Dywedodd Heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr fod Shawn Seesahai, 19, wedi marw ar ôl cael ei drywanu ar dir ger Ffordd Laburnum, East Park, ychydig cyn 20:30 nos Lun.
Mae disgwyl i'r ddau fachgen ymddangos yn Llys Ynadon Birmingham ddydd Gwener.
Mae mam Mr Seesahai wedi disgrifio ei mab fel "enaid ifanc dewr, trugarog a hyderus".
Dywedodd y llu mewn datganiad: “Cafodd y plant 12 oed eu harestio nos Fawrth ac, yn dilyn gwarant i’w cwestiynu ymhellach, fe’u cyhuddwyd heno.
“Mae’r bechgyn hefyd wedi’u cyhuddo o fod â llafn yn eu meddiant.
“Mae heddlu’n parhau i fod yn bresennol yn East Park i roi sicrwydd i’r cyhoedd ac mae ein meddyliau gyda theulu a ffrindiau Shawn. “