Masectomi dwbl yn cynnig 'tawelwch meddwl' wedi colled deuluol
Masectomi dwbl yn cynnig 'tawelwch meddwl' wedi colled deuluol
Unwaith nathon nhw gynnig o i mi, dw i'n sicr yn mynd i wneud. Mwy o pryd yn hytrach na os.
Mae Sian Pwal yn rhedeg busnes marchnata o'i chartref ym mhentref Rhewl ger Rhuthun.
Gyda chanser y fron yn rhedeg yn y teulu yn 25 oed mi nath hi benderfynu gael llawdriniaeth mastectomy dwbl.
Wnes i golli Mam i gancr y fron pan o'n i'n 11. Mam yn 47 pan nath hi farw. Tua 40 pan ga'th hi ddiagnosis. Wnes i wneud y penderfyniad drastic i gael double masectomy yn eitha ifanc, wel, yn ifanc iawn.
Dyna oedd yr opsiwn arall ar gael i fi. Oedd well gen i gael y tawelwch meddwl hynna.
Roedd yr oed wnaeth dy riant farw fel trothwy. Ti ddim yn gweld yn bellach nag oed y diagnosis. 25 o'n i, roedd tipyn o amser i fynd. Yr agosa o'n i am gyrraedd hwnna, y fwya oedd o'n mynd i fy mhoeni.
Well delio gyda'r peth cyn gynted a phosib a chyn cael plant.
Er mai llawdriniaeth radical oedd yr unig ddewis i Sian rŵan gyda'r cyffur Anastrozole wedi ei drwyddedu a hwnnw'n gyffur rhad i'w gynhyrchu mi allai arbed miloedd o fywydau a hefyd arbed miliynau o bunnau i'r gwasanaethau iechyd.
Wedi clywed am y cyffur newydd nathoch chi feddwl, "Tasa hwnna 'mond wedi bod ar gael"?
Dw i'n meddwl bod o'n cael ei gynnig i ferched hyn. Yn hynna o beth oedd Mam pan gafodd hi'r diagnosis. Dw i'm yn siŵr os fysa hynna wedi newid fy meddwl i. Mi ydw i'n cadw llygad ar y datblygiadau. Mae gen i dair o genod.
Yr ystyriaeth arall i feddwl am ydy be dwi wedi pasio 'mlaen iddyn nhw.
Mae Llywodraeth Cymru yn deud fod Anastrozole wedi bod ar gael yma yng Nghymru i rai sy'n gymwys cyn y cyhoeddiad yn Lloegr yr wythnos diwethaf.
Un tabled y dydd am bum mlynedd dyna'r dos a'r effaith amddiffynnol, mae'n debyg, yn para am flynyddoedd hyd yn oed ar ôl rhoi'r gorau i'w gymryd.
Ond mae yna sgîl-effeithiau posib hefyd. Mae hwn ar gael i ferched o oed penodol ond ticio bocsys, fydd rhaid ffitio mewn i gategori.
Gobeithio fydd mwy yn dod allan fydd yn sicrhau fod mwy o bobl yn gallu cael fwy o opsiynau fydd ddim yn golygu rhywbeth mor drastic a dw i wedi neud fydd ddim yn apelio at bawb a ddim yn iawn i bawb chwaith.
Tydi'r elusen Breast Cancer Now ddim yn credu fydd y cyhoeddiad o Loegr yn cynyddu nifer y merched yng Nghymru sy'n gymwys i gymryd Anastrozole ond maen nhw'n gobeithio fydd y cyffur yn haws i'w gyrraedd.