Lidl yn gwrthwynebu archfarchnad newydd Aldi ym Mhwllheli
Mae swyddogion cynllunio Cyngor Gwynedd wedi argymell caniatáu i gwmni Aldi godi archfarchnad ym Mhwllheli, er gwaethaf pryderon am draffig - a gwrthwynebiad gan un o gystadleuwyr y cwmni.
Gobaith Aldi ydy adeiladu siop 1880 medr sgwâr gyda maes parcio i 114 o geir wrth ochr yr A499 (ffordd Caernarfon) ar gyrion y dref.
Ond mae cwmni Lidl - sydd eisoes â siop ym Mhwllheli - yn gwrthwynebu, gan ddweud eu bod yn gallu diwallu anghenion siopwyr y cylch.
Mae Lidl hefyd yn dweud ei bod hi'n bosib y byddan nhw'n cyflwyno cais cynllunio i godi archfarchnad fwy ym Mhwllheli yn y dyfodol.
Yn ôl Cyngor Gwynedd, mae nifer o bobl y cylch wedi ymateb i'r cais, gyda rhai o blaid a rhai yn erbyn.
Mae'r tir, sy'n gaeau ar hyn o bryd, wedi ei glustnodi ar gyfer adeiladu tai, ond mae swyddogion cynllunio'n dweud nad ydy hi'n realistig credu y bydd tai yn cael eu hadeiladu yno, o ystyried y farchnad dai bresennol.
Ond mae Cyngor Tref Pwllheli yn gwrthwynebu, gan ddweud "nad yw'r cynllun presennol yn mynd yn ddigon pell o ran arafu cyflymder traffig, lleihau tagfeydd, a sicrhau mynediad diogel i'r archfarchnad".
Mae arbenigwyr trafnidaeth Cyngor Gwynedd yn cydnabod y gallai'r datblygiad effeithio ar lif traffig drwy Bwllheli, ond mae nhw'n dweud ei fod yn "annhebygol o gael effaith andwyol ar ddiogelwch fffyrdd".
Bydd pwyllgor cynllunio Cyngor Gwynedd yn trafod cais cynllunio Aldi ddydd Llun.