Llywodraeth y DU yn y 'camau olaf' o gytuno ar bolisi Rwanda newydd
Mae Llywodraeth y DU yn y "camau olaf" o drafod cytundeb newydd gyda Rwanda, meddai'r gweinidog dros fewnfudo.
Daw wedi i farnwyr y Goruchaf Lys dyfarnu ddydd Mercher bod polisi Llywodraeth y DU i anfon ceiswyr lloches i Rwanda yn anghyfreithlon.
Ond mae’r gweinidog dros fewnfudo, Robert Jenrick, bellach wedi dweud eu bod yn “hollol hanfodol” fod pobl yn cael eu cludo i Rwanda yn y gwanwyn.
Dywedodd ei fod yn “hyderus” y byddai cam o'r fath yn cael eu cyflawni, serch penderfyniad barnwyr y Goruchaf Lys i atal y cynlluniau blaenorol.
Roedd y penderfyniad yn ymwneud ag anfon ceiswyr lloches yn benodol i Rwanda, yn hytrach na'r egwyddor ehangach o anfon mudwyr i drydedd wlad.
Dywedodd y Goruchaf Lys yr oedd “sail sylweddol” i gredu y gallai pobl sy’n cael eu hanfon i Rwanda fel rhan o’r cynllun, fod mewn peryg o gael eu cludo i bedwaredd wlad gan lywodraeth Rwanda, ble na fyddent yn ddiogel.
Ond mae’r Prif Weinidog Rishi Sunak bellach wedi dweud y byddai’r cynllun newydd yn sicrhau diogelwch ceiswyr lloches rhag cael eu cludo yn ôl i’w mamwlad gan awdurdodau Rwanda.
Ychwanegodd ei fod yn benderfynol o roi’r diwedd i’r “chwyrligwgan” o heriau cyfreithiol i’w wneud â’r cytundeb.
Funudau wedi'r dyfarniad ddydd Mercher, cyhoeddodd Llywodraeth Rwanda ddatganiad yn mynegi anfodlonrwydd gyda'r disgrifiad nad yw eu gwlad yn ddiogel ar gyfer ceiswyr lloches a ffoaduriaid.
"Mae Rwanda a'r Deyrnas Unedig wedi bod yn cyd-weithio er mwyn sicrhau fod ceiswyr lloches yn ymgartrefu’n rhwydd yng nghymdeithas Rwanda," meddai'r datganiad.
"Rydym yn cymryd ein cyfrifoldebau dyngarol o ddifrif, a byddwn yn parhau i weithredu yn y modd hwnnw."
Lluniau: Stefan Rousseau a James Manning (PA Wire)