Masectomi dwbl yn cynnig 'tawelwch meddwl' wedi colled deuluol
Masectomi dwbl yn cynnig 'tawelwch meddwl' wedi colled deuluol
“Unwaith neutho nhw gynnig o i fi, oni’n meddwl – dwi’n sicr yn mynd i neud hyn. O’dd o’n fwy o pryd yn hytrach na os.”
Mae Sian Powell yn fam 35 oed i dair ac yn rhedeg busnes cysylltiadau cyhoeddus a marchnata o’i chartref ym mhentref Rhewl ger Rhuthun.
11 oed oedd Sian pan fu farw ei mam o ganser y fron a hithau’n ei phedwardegau.
Gyda chanser yn rhedeg yn y teulu, yn 25 oed fe benderfynodd gael llawdriniaeth mastectomi dwbl.
“Nesh i neud y penderfyniad drastig i gael double mastectomy yn eitha ifanc, wel yn ifanc iawn.
“Hwn oedd yr opsiwn oedd ar gael i fi ac ’oedd well gen i gael tawelwch meddwl.”
Llawdriniaeth radical oedd yr unig ddewis i Sian ar y pryd, meddai:
“Dwi’n meddwl fod yr oed nath dy riant di farw fel rhyw drothwy, ti’m yn gweld yn bellach na’r oed yna.
“Ac er ma’ 25 o’ni, ac mi ’oedd yna ddigon o amser tan hynny, ’oni’n meddwl – yr agosa dwi’n mynd at gyrraedd yr oed yna, y mwy mae o’n mynd i mhoeni i,
“Felly, ma’n well i mi ddelio efo’r peth cyn gynted a phosib, a chyn cael plant.”
Wythnos ddiwethaf yn Lloegr cafodd Anastrozole - cyffur sy’n cael ei ddefnyddio i drin merched â chanser y fron) ei drwyddedu’n swyddogol i fod yn driniaeth a all rwystro y canser hefyd.
Fel rheol, dim ond merched sydd wedi cael diagnosis sy’n cael derbyn Anastrozole, ond bellach mae newid pwrpas i'r cyffur yn swyddogol yn golygu y gall merched sydd mewn cyfnod ôl-menopos neu sydd mewn peryg o gael canser y fron gymryd y tabledi.
Mae’n gyffur rhad i’w gynhyrchu, ac mae arbenigwyr yn gobeithio y bydd yn gallu arbed miloedd o fywydau yn ogystal ag arbed miloedd o bunnoedd i’r gwasanaethau iechyd.
Triniaeth ataliol
Mae Anastrozole eisoes yn cael ei ddefnyddio yng Nghymru fel triniaeth ataliol mewn rhai achosion, gyda llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru yn dweud fod y “cyffur wedi bod ar gael i'r rhai sy'n gymwys, cyn cyhoeddiad yr MHRA yr wythnos diwethaf.”
Rheoleiddiwr y Deyrnas Unedig, MHRA, (Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd) wnaeth y penderfyniad, ac er mai cyhoeddiad i Loegr oedd hwn, yn ôl elusen Breast Cancer Now mae ymestyn y drwydded “yn berthnasol i ferched yng Nghymru.”
Mae Anastrozole yn cael ei argymell yng nghanllawiau NICE yn barod fel triniaeth sy’n gallu lleihau’r risg o gael canser y fron - ar gyfer menywod mewn cyfnod ôl-menopos neu i’r rhai sydd mewn perygl cymedrol neu uchel o ddatblygu’r canser.
Ond, mae Breast Cancer Now yn dweud fod y “nifer sy'n manteisio ar yr opsiwn yma yn isel.”
“Rydyn ni'n meddwl mai un o'r rhesymau am hyn ydy nad oedd Anastrozole wedi'i drwyddedu ar gyfer y defnydd yma.”
Presgripsiwn
Mae’r elusen yn egluro fod gan feddygon, er lles y claf, yr hawl i roi presgripsiwn at ddefnydd sydd ddim wedi’u trwyddedu, ond fod rhai yn “bryderus am roi triniaethau ‘oddi ar y label’”
Tydi’r elusen Breast Cancer Now “ddim yn credu y bydd y cyhoeddiad o Loegr yn cynyddu nifer y merched yng Nghymru sy’n gymwys i gymryd Anastrozole”, ond maen nhw’n gobeithio y bydd y cyffur yn haws i’w gael.
Un dabled y dydd am bum mlynedd – dyna’r dos, gyda’r effaith amddiffynnol i fod i bara am flynyddoedd hyd yn oed ar ôl rhoi gorau i’w gymryd.
O gymryd y cyffur, mae yna beth risg o rai sgîl-effeithiau, sy’n debyg i symptomau'r menopos.
Gall y rhain gynnwys pyliau o wres, teimlo'n wan a phoen yn y cymalau.
Er yn croesawu’r newyddion fod Anastrozole wedi cael ei drwyddedu yn swyddogol fel cyffur ataliol, tydi Sian ddim yn difaru ei phenderfyniad i godi’w dwy fron.
“Dwi’n meddwl fod y cyffur yn cael ei gynnig i ferched hŷn, ac yn hŷn hyd yn oed na be oedd mam pan gafodd hi’r diagnosis, felly dwi ddim yn siŵr tasa’r cyffur ar gael ar y pryd, dwi ddim yn siŵr os fasa fo wedi newid fy meddwl i.
“Ond, dwi yn cadw llygaid ar y datblygiadau yn y maes achos mae gen i dair o genod, ac wrth gwrs yr ystyriaeth arall dwi’n gorfod meddwl ydy be dwi wedi basio ’mlaen iddyn nhw.”
“Mae hwn ar gael i ferched o oed penodol, ac mi fydd yna dicio bocsus, mi fydd rhaid i chdi ffitio i mewn i ryw gategori pendol.
"Felly gobeithio fydd yna fwy a mwy o bethau yn dod allan fydd yn sicrhau fod yna fwy o bobol yn gallu cael fwy o opsiynau fydd ddim, o reidrwydd, yn golygu cymryd cam mor drastig a dwi wedi neud”