Yr heddlu'n darganfod 15 o deithwyr mewn un car ar draffordd yr M62
15/11/2023
Bu'n rhaid i'r heddlu yng ngogledd orllewin Lloegr atal car rhag teithio ar draffordd yr M62 gan ei fod yn edrych yn orlawn.
Wrth ymchwilio'n bellach, daeth swyddogion o hyd i 15 o deithwyr yn y cerbyd, gan gynnwys plant.
Nid oedd y teithwyr yn gwisgo gwregysau diogelwch ar y pryd.
Fe gafodd y gyrrwr a'r oedolion eraill yn y car Adroddiadau Troseddau Traffig gan yr heddlu.
Inline Tweet: https://twitter.com/NWmwaypolice/status/1724777751545282925