Hanner rhywogaethau adar môr Cymru 'wedi cynyddu' dros yr 20 mlynedd ddiwethaf
Mae dros hanner y rhywogaethau adar môr sy’n bridio yng Nghymru wedi cynyddu yn eu niferoedd dros yr 20 mlynedd ddiwethaf, yn ôl cyfrifiad a gyhoeddwyd ddydd Iau.
Dyma’r cyfrifiad mwyaf cynhwysfawr o adar môr sydd wedi’i gynnal hyd yma, ac mae’n rhoi amcangyfrifon ar gyfer y 25 o rywogaethau sy’n bridio’n rheolaidd ym Mhrydain, Iwerddon, Ynys Manaw ac Ynysoedd y Sianel.
Fe gafodd yr arolwg ei gynnal rhwng 2015 a 2021, dan arweiniad y Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur (JNCC), gyda dros 20 o bartneriaid yn rhan o’r grŵp llywio.
Mae’r cyfrifiad yn dangos bod 11 o’r 21 o rywogaethau adar môr sy’n bridio yn rheolaidd yng Nghymru wedi cynyddu ers Seabird 2000, sef y cyfrifiad diwethaf a gyhoeddwyd yn 2004 ac a edrychai ar y cyfnod rhwng 1998 a 2002.
Y prif bartneriaid oedd yn rhan o’r gwaith i gasglu a chyhoeddi’r canfyddiadau oedd Birdwatch Ireland, JNCC, y National Parks and Wildlife Service (Iwerddon), a’r RSPB.
Mae amcangyfrifon cyfredol ar gael ar gyfer pedair o’r rhywogaethau adar môr eraill, ond oherwydd newid a gwelliannau yn nulliau’r arolwg, nid oes modd eu cymharu’n hyderus ag amcangyfrifon blaenorol.
Mae niferoedd y chwe rhywogaeth sy’n weddill, fodd bynnag, wedi gostwng. Mae'r prif resymau dros y dirywiad mewn poblogaethau yn amrywio rhwng rhywogaethau a rhwng lleoliadau, ond mae rhai themâu cyffredin.
Mae ysglyfaethu yn broblem gyffredin: gall ysglyfaethwyr brodorol a goresgynnol fwyta wyau, cywion ac oedolion.
Mae’r newid yn yr hinsawdd yn ffactor pwysig arall. Mae tywydd gwael yn sgubo nythod ymaith ac yn gwneud yr amodau fforio’n fwy anodd.
Gall cynnydd yn nhymheredd y dŵr olygu bod llai o fwyd pwysig ar gael, fel llymrïaid. Mae hynny’n golygu nad yw rhieni ymhlith adar môr yn gallu dod o hyd i ddigon o fwyd.
Yr Wylan Goesddu
Oherwydd gostyngiadau diweddar yn genedlaethol ac yn fyd-eang, mae Gwylanod Coesddu yn Aderyn o Bryder Cadwraethol sydd ar restr goch y Deyrnas Unedig, ac yn Agored i Niwed yn nosbarthiad yr Undeb Rhyngwladol dros Gadwraeth Natur.
Yng Nghymru, bu gostyngiad o 34% yn y rhywogaeth, tra bo’r boblogaeth a gofnodwyd drwy Brydain ac Iwerddon gyfan ar ei hisaf erioed mewn unrhyw gyfrifiad.
Y Fulfran Ewropeaidd
Mae Mulfrain Ewropeaidd eisoes yn Aderyn o Bryder Cadwraethol sydd ar restr goch y Deyrnas Unedig, ac wedi bod yn dirywio ers tro.
Mae canlyniadau’r cyfrifiad diweddaraf yn dangos gostyngiad o 29% ym mhoblogaeth Cymru.
Y Fôr-wennol
O blith y pum rhywogaeth o fôr-wenoliaid sy’n bridio’n rheolaidd ym Mhrydain ac Iwerddon, mae pedair rhywogaeth wedi cynyddu yn eu niferoedd ers yr arolwg diwethaf.
Mae Môr-wenoliaid y Gogledd wedi gweld cynydd 133% yng Nghymru er gwaethaf gostyngiad o 35% yng ngweddill Prydain ac Iwerddon.
Mae niferoedd y Môr-wenoliaid Cyffredin a’r Môr-wenoliaid Pigddu wedi cynyddu hefyd. Yng Nghymru, dim ond yn Sir y Fflint ac Ynys Môn y mae Môr-wenoliaid Cyffredin i’w cael, gyda’r niferoedd yn cynyddu ym mhob cyfrifiad cenedlaethol.
Mae poblogaeth fridio Môr-wenoliaid Bach ym Mhrydain ac Iwerddon bellach ar ei hisaf yn hanes y cyfrifiad, ond mae’r boblogaeth yng Nghymru wedi cynyddu 129% ers y cyfrifiad diwethaf.
'Monitro ac astudio'
Dywedodd Daisy Burnell, Uwch Adaregydd Morol a Chydlynydd Seabirds Count, JNCC: “Mae’n galonogol gweld y tueddiadau cadarnhaol a sefydlog hyn ymhlith nifer dda o’r rhywogaethau adar môr sy’n bridio yng Nghymru.
“Mae’r poblogaethau’n amlwg yn wydn ac mae angen i ni fonitro ac astudio hynny er mwyn helpu gyda gwaith yn y dyfodol i adfer a gwarchod adar môr yn ehangach.
“Rydyn ni’n gwerthfawrogi’n aruthrol waith caled ac ymroddiad ein partneriaid yng Nghymru dros gyfnod y prosiect a’u parodrwydd i ddarparu data hollbwysig.
"O’r canlyniadau hyn, rydyn ni wedi gallu deall pwysigrwydd byd-eang Cymru i rai adar môr sy’n bridio, ac yn enwedig Adar Drycin Manaw, gan fod bron i hanner poblogaeth y byd yn bridio yma.”
Dywedodd Julian Hughes, Pennaeth Rhywogaethau yn RSPB Cymru: "Bydd nifer o adar môr yn byw am ddegawdau, felly ein cyfrifoldeb ni yw sicrhau bod y cywion sy’n deor eleni yr un mor llwyddiannus â chenhedlaeth eu rhieni.”