
Y cogydd Chris ‘Flamebaster’ Roberts yn mwynhau aduniad teuluol emosiynol yn Sgandinafia
Fe gafodd y cogydd Chris 'Flameblaster' Roberts aduniad teulu emosiynol yn Sgandinafia tra'r oedd yno'n ffilmio ei gyfres deledu newydd.
Aeth y cogydd o Gaernarfon i Norwy, Denmarc a Sweden er mwyn cael blas ar fwyd Nordig yn ei gyfres newydd Taith Scandi Chris ar S4C.
Cafodd y daith ei gwneud yn fwy arbennig pan y cafodd Chris aduniad gyda'i gefndryd Eivind Oen ac Eleri Mai Oen Fossem, sef disgynyddion ei hen ewythr y pysgotwr Norwyaidd Olaf Oen, tra'n ffilmio yn Bergen.
"Mae cefndryd fy nhad yn byw yn Bergen, Norwy. Mi wnaeth fy hen fodryb Megan gyfarfod efo fy hen ewythr Olaf yn yr Ail Ryfel Byd.
"Roedd ganddyn nhw ddau o blant ac yn byw ychydig y tu allan i Gaernarfon am gyfnod, yna mi symudon nhw i Bergen a chael dau blentyn arall," meddai.
"Roedd fy nhad a fy nain yn arfer treulio eu gwyliau yno ac roeddwn i eisiau cyfarfod efo’r teulu estynedig ac archwilio’r diwylliant bwyd yno."

Yn ystod yr aduniad, treuliodd Chris a'i deulu ddiwrnod yn pysgota ym Môr y Gogledd ac fe wnaeth ei gefndryd goginio iddo hefyd.
"Roedd yn arbennig iawn cyfarfod efo nhw a threulio amser efo nhw. Roedd yn anhygoel o emosiynol, a doeddwn i ddim yn disgwyl iddo fod mor emosiynol ag yr oedd," meddai.
Yn ystod y gyfres, mae Chris yn mentro i Fjords Norwy yn ogystal â phrofi diwylliant sawna Sgandinafia.
“Y llynedd, fe wnaethon ni ffilmio yn Efrog Newydd, ac roeddwn i eisiau i’r gyfres hon fod yn hollol wahanol,” meddai.
Mae gan Chris werthfawrogiad mawr o wledydd Scandinafia am y ffordd y maen nhw'n edmygu eu cynnyrch.
"Mae ganddyn nhw aeafau anhygoel o llym a gwanwyn a haf mor fyr; Mae popeth wedi’i anelu at gadw a gwneud y gorau o fwyd tymhorol gyda gwahanol ddulliau o eplesu. Maen nhw wir yn dathlu eu cynnyrch sy’n rhywbeth dw i’n ei edmygu fel Cymro," meddai.

Bydd Chris hefyd yn cyfarfod â rhai o'i arwyr yn ystod y gyfres, gan gynnwys Niklas Ekstedt, cogydd teledu seren Michelin.
"Fo ysgrifennodd un o’r llyfrau cyntaf i mi ei brynu erioed ar goginio tân agored. Roedd hi’n braf cael treulio amser efo fo. Aethom i chwilota am fwyd yn y goedwig a choginio yn yr awyr agored."
Treuliodd gyfnodau hefyd yn y gyfres yn cyfarfod y cogydd seren Michelin Rosio Sanchez yn Copenhagen yn ogystal â'r cogydd Jamie Lee, oedd yn un o 'arwyr bwyd' Chris.
Ychwanegodd: "Nid coginio tân agored yw’r gyfres i gyd. Maen nhw’n dweud mai Copenhagen ydi un o’r cyrchfannau bwyd gorau yn y byd gyda llawer o fwytai efo sȇr Michelin ond nid dyna’r cyfan. Roeddwn i eisiau blasu’r bwyd stryd – a chyfarfod efo’r arloeswyr y tu ôl i’r bwyd Nordig Newydd. Bwyd stryd ydi fy hoff fath o fwyd."
Bydd Siwrna Sgandi Chris yn cael ei darlledu ar S4C am 21:00 nos Fercher 29 Tachwedd.