Mae Barnwyr y Goruchaf Lys wedi dyfarnu bod polisi Llywodraeth y DU i anfon ceiswyr lloches i Rwanda yn anghyfreithlon.
Mae'n ergyd enfawr i bolisi mewnfudo Llywodraeth y DU wedi i'r Llys Apel ddyfarnu ym mis Mehefin eleni nad yw Rwanda yn wlad ddiogel i anfon mudwyr iddi.
Penderfynodd dau o'r tri barnwr yn y llys hwnnw bod polisi Llywodraeth y DU i anfon ceiswyr lloches yno yn "anghyfreithlon". Bellach mae'r barnwyr yn y Goruchaf Lys wedi cytuno â'r penderfyniad hwnnw, a chadarnhau felly ei fod yn anghyfreithlon. Roedd y pump yn unfrydol eu barn.
Yr Arglwydd David Lloyd-Jones oedd un o'r barnwyr a fu'n penderfynu ar y mater yn y Goruchaf Lys - Cymro Cymraeg a gafodd ei eni ym Mhontypridd.
Dywedodd yr Arglwydd Reed ar ran y pump o farnwyr bod gan Rwanda record wael ym maes hawliau dynol a bod pryderon hefyd am ryddid gwleidyddol yn y wlad yn ogystal â rhyddid y cyfryngau yno.
Roedd y penderfyniad yn ymwneud ag anfon ceiswyr lloches yn benodol i Rwanda, yn hytrach na'r egwyddor ehangach o anfon mudwyr i drydedd wlad .
Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig o'r farn y byddai'r cynllun yn annog pobl i beidio â chroesi mewn cychod bychain ar draws y Sianel gan beryglu eu bywydau.
"Nid y canlyniad yr oeddem yn ei ddymuno"
Mae swyddfa'r Prif Weinidog Rishi Sunak wedi cyhoeddi datganiad yn ymateb i'r penderfyniad.
“Rydym wedi gweld y dyfarniad heddiw a bellach yn ystyried y camau nesaf
“Nid dyma'r canlyniad yr oeddem yn ei ddymuno, ond rydym wedi treulio'r misoedd diwethaf yn cynllunio ar gyfer pob math o sefyllfaoedd, ac ry'n ni'n parhau i fod wedi ymrwymo yn llwyr i'r cynllun i atal y cychod.
“Yn holl bwysig, mae'r Goruchaf Lys - fel y Llys Apel a'r Uchel Lys cyn hynny - wedi cadarnhau bod anfon mewnfudwyr anghyfreithlon i drydedd wlad ddiogel ar gyfer y drefn brosesu yn gyfreithlon. Mae hyn yn cadarnhau safbwynt y llywodraeth.
"Mae mewnfudo anghyfreithlon yn dinistrio bywydau ac yn costio miliynau o bunnau bob blwyddyn i drethdalwyr Prydain. Mae angen i ni ddod â hyn i ben, a byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i wireddu hynny
Funudau wedi'r dyfarniad, cyhoeddodd Llywodraeth Rwanda ddatganiad yn mynegi anfodlonrwydd gyda'r disgrifiad nad yw eu gwlad yn ddiogel ar gyfer ceiswyr lloches a ffoaduriaid.
"Mae Rwanda a'r Deyrnas Unedig wedi bod yn cyd-weithio er mwyn sicrhau fod ceiswyr lloches yn ymagrtrefu'n rhwydd yng nghymdeithas Rwanda," meddai'r datganiad.
"Rydym yn cymryd ein cyfrifoldebau dyngarol o ddifrif, a byddwn yn parhau i weithredu yn y modd hwnnw. "
Braverman yn bytheirio
Wrth feirniadu arweinyddiaeth Rishi Sunak yn hallt ddydd Mawrth, wedi iddi gael ei diswyddo ganddo, dywedodd y cyn Ysgrifennydd Cartref Suella Braverman fod Rishi Sunak yn "wan" wrth ymdrin â pholisi Rwanda.
Dywedodd fod gan y Prif Weinidog “ feddwl hudolus” a'i fod wedi methu â llunio cynllun wrth gefn pe bai ei bolisi yn Rwanda yn cael ei rwystro yn y Goruchaf Lys.
Yn ôl Suella Braverman, byddai hi wedi “gwastraffu blwyddyn” ar y Ddeddf Ymfudo Anghyfreithlon a byddai angen i Lywodraeth y Du "ddechrau o'r dechrau” os yn colli'r frwydr gyfreithiol.
Llun: PA