Newyddion S4C

Caniatáu arwyddion uniaith Saesneg tu allan i McDonald's yn 'gam yn ôl'

Newyddion S4C 11/06/2021

Caniatáu arwyddion uniaith Saesneg tu allan i McDonald's yn 'gam yn ôl'

Mae penderfyniad i ganiatáu arwyddion uniaith Saesneg tu allan i McDonald's wedi cael ei ddisgrifio fel "cam yn ôl" gan ymgyrchwyr dros yr iaith.

Mae cwmni McDonald's wedi cael hawl i roi arwydd digidol uniaith Saesneg y tu allan i'r bwyty yng Nghaernarfon.

Cafodd y cais gwreiddiol i osod yr arwyddion newydd ei wrthod fis Mai y llynedd, gan nad oedd y cais yn cydymffurfio â gofynion y cyngor. 

Ond, ar ôl cyflwyno cais cynllunio newydd, cytunodd Cyngor Gwynedd gan ddweud nad ydy'r arwydd, sy'n newid yn gyson i roi gwybodaeth i gwsmeriaid, yn groes i'r polisïau cynllunio.

Mewn cyfweliad gyda rhaglen Newyddion S4C, dywedodd Elfed Wyn ap Elwyn o Gymdeithas yr Iaith: "Mae o'n ergyd fawr fod rwla sydd yn fwy neu lai yn brif ddinas y Gymraeg ddim efo rhywle sydd efo arwyddion dwyieithog.

"Gyda pethau fel buddugoliaethau bach fel hyn, os se ni 'di ennill hwn bysa fo'n codi calon ni gyd fel pobl yng Nghaernarfon a fel siaradwyr Cymraeg, yn gweld fod pobl yn pryderu am yr iaith ac isho gwneud beth sy'n iawn i bobl leol. Ac anaml iawn 'da ni'n cael buddugoliaethau mawr, ond mae'r buddugoliaethau bach 'ma'n cyfri."

"Cam wrth gam newn ni adfer yr iaith a'i chryfhau hi, ac mae hwn bach o gam yn ôl i ddeud gwir a dwi yn gobeithio gwneith Cyngor Gwynedd ailystyried."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.