Newyddion S4C

Heddlu yn tawelu meddwl y cyhoedd wedi i ddyn gael ei weld gyda chyllell yn Aberaeron

15/11/2023
ffordd panteg.png

Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi tawelu meddwl y cyhoedd wedi adroddiadau am ddyn yn cael ei weld gyda chyllell yn Aberaeron yng Ngheredigion brynhawn Mawrth.

Cafodd swyddogion yn cynnwys heddlu arfog eu galw i ffordd Panteg yn y dref, a chafodd yr ardal ei harchwilio yn fanwl, medd yr heddlu. Roedden nhw hefyd wedi siarad â thystion.  

Cyhoeddodd Ysgol Gyfun Aberaeron rybudd ar gyfryngau cymdeithasol ar gyfer eu disgyblion. 

Mewn diweddariad nos Fawrth, dywedodd Heddlu Dyfed Powys eu bod wedi dod i'r casgliad fod cerddwr wedi darganfod cyllell ar y traeth ac wedi mynd â hi adref gydag e, er mwyn sicrhau nad oedd yn achosi unrhyw niwed i eraill. 
 
Ychwanegodd y llu eu bod nhw eisiau tawelu meddwl trigolion yr ardal, a'u bod o'r farn iddo weithredu gyda'r 'bwriad iawn'. Ac yn sgil hynny, roedden nhw'n annog pobl i beidio a chyhoeddi enw'r unigolyn ar gyfryngau cymdeithasol.
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.