Arestio dyn ar amheuaeth o ddynladdiad wedi marwolaeth Adam Johnson
14/11/2023
Mae dyn wedi cael ei arestio ar amheuaeth o ddynladdiad wedi marwolaeth y chwaraewr hoci iâ Adam Johnson.
Cafodd Mr Johnson ei daro yn ei wddf gan esgid sglefrio gwrthwynebydd gan achosi anaf angheuol tra'n chwarae i glwb Nottingham Panthers yn erbyn Sheffield Steelers ddiwedd Hydref.
Cafodd ei gludo i'r ysbyty lle bu farw yn ddiweddarach.
Dywedodd Heddlu Sir De Efrog fod archwiliad post-mortem wedi cadarnhau iddo farw yn sgil anaf angheuol i'w wddf.
Dywedodd y llu fod plismyn wedi arestio person ddydd Mawrth, a'i fod yn parhau yn y ddalfa.