Newyddion S4C

Y BBC yn derbyn pum cwyn yn erbyn y digrifwr Russell Brand

14/11/2023
Russell Brand

Mae’r BBC wedi derbyn dwy gŵyn arall am y digrifwr Russell Brand ers i’r gorfforaeth lansio adolygiad i’w ymddygiad.

Nid yw natur yr honiadau wedi’u nodi, ond dywedodd y BBC fod yr ymchwiliad bellach yn ystyried cyfanswm o bum cwyn am ymddygiad Mr Brand tra'r oedd wedi’i gyflogi gan y gorfforaeth.

Ychwanegodd llefarydd ei bod yn “ymddangos na chymerwyd unrhyw gamau disgyblu yn erbyn Russell Brand tra oedd yn gweithio i'r BBC yn 2006-8 cyn iddo adael”.

Fe gafodd y cyhuddiadau gyntaf yn erbyn Mr Brand eu gwneud ar raglen Disptaches ar Channel 4, yn dilyn ymchwiliad ar y cyd gyda The Sunday Times a The Times ym mis Medi.

Fe wnaeth pedair dynes honni eu bod wedi dioddef ymosodiadau rhyw rhwng 2006 a 2013, pan yr oedd gyrfa Brand yn ei anterth ac yntau'n gweithio i BBC Radio 2 a Channel 4, yn ogystal â serennu mewn ffilmiau Hollywood.

Mae Russell Brand wedi gwadu'r holl honiadau yn ei erbyn hyd yma ac wedi dweud bod ei berthnasoedd "bob amser yn gydsyniol".

Yn dilyn yr honiadau dywedodd y BBC, Channel 4 a chwmni cynhyrchu arall ar y cyd eu bod nhw’n cynnal ymchwiliad “ar frys” i’r honiadau yn ei erbyn. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.